Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Adnoddau Arolygu a Monitro
Os hoffech chi gymryd rhan mewn gwaith arolygu a monitro’r gylfinir, mae gennym ni amrywiaeth o adnoddau arolygu a monitro a gwybodaeth ategol i'ch helpu i fwrw ati beth bynnag fo lefel eich profiad.
-
I'r rhai sydd am gymryd rhan mewn arolwg cyflym a hawdd o ylfinirod sy’n bridio ac adar hirgoes eraill, yn enwedig ffermwyr, tirfeddianwyr a'r rhai sydd am roi cynnig ar waith maes am y tro cyntaf, gweler Calendr Adar Hirgoes y BTO yma.
-
I'r rhai sydd am gymryd rhan mewn gwaith maes yn benodol ar ylfinirod sy’n bridio, gweler Pecyn Cymorth Gwaith Maes y Gylfinir (Rhan 1) isod.
-
I'r rhai sydd am gymryd rhan mewn gwaith maes mwy technegol yn nythod y gylfinir neu o'u hamgylch, gofynnwch am Becyn Cymorth Gwaith Maes y Gylfinir (Rhan 2) fel yr amlinellir isod.
-
Os hoffech chi gael arweiniad rhyngwladol ychwanegol gan AEWA ar gyfer arolygu a monitro’r gylfinir, cliciwch yma.
-
I unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall mwy am ylfinirod sy’n bridio, yn enwedig eu lleisiadau a'u hymddygiad, cliciwch yma ar gyfer Ffilm Hyfforddiant ardderchog ar Arsylwi’r Gylfinir a gynhyrchwyd gan ein partneriaid yn Curlew Country.
-
Yn olaf, ewch i'r dudalen Gwybodaeth am y Gylfinir i gael gwybodaeth gefndir am y Gylfinir a dolenni i adnoddau defnyddiol a gynhyrchwyd gan ein partneriaid a sefydliadau cadwraeth eraill.
Pecyn Cymorth Gwaith Maes y GylfinirMae Pecyn Cymorth Gwaith Maes y Gylfinir yn adnodd hanfodol i unrhyw un sy'n dechrau neu'n cymryd rhan mewn gwaith maes ar y gylfinir. Er iddo gael ei gynllunio'n wreiddiol gan Bartneriaeth Adfer y Gylfinir ar gyfer gweithwyr maes sy'n gweithredu ar dir isel Lloegr, mae'r Pecyn Cymorth hefyd yn cynnwys awgrymiadau a gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer gweithwyr maes y gylfinir mewn rhannau eraill o'r DU. Mae'r Pecyn Cymorth yn cynnwys 15 taflen o ffeithiau defnyddiol sy'n cynrychioli miloedd lawer o oriau gwaith maes gan nifer fawr o ymchwilwyr a rhai sy’n ymddiddori’n fawr yn y gylfinir. Sylwer mai argraffiad cyntaf yn unig yw hwn, a rhagwelwn y bydd ail argraffiad o'r Pecyn Cymorth fydd yn cynnwys diweddariadau perthnasol ac adrannau ychwanegol ar ddulliau arolygu a monitro ar gael mewn pryd ar gyfer tymor bridio 2022.
Mae'r chwe thaflen ffeithiau gyntaf (Rhan 1) ar gael i'w lawrlwytho nawr drwy glicio ar y teitlau isod.
Mae'r naw taflen ffeithiau sy'n weddill a restrir isod (Rhan 2) yn ymwneud â gwaith yn y nyth neu o'i amgylch - maen nhw ar gael ar gais, ond bydd angen datganiad byr yn amlinellu'r lleoliad lle rydych chi’n cynnal y gwaith maes, y prosiect rydych chi’n ei gefnogi (os yw'n berthnasol), ac enw awdurdod cydnabyddedig a all gefnogi eich datganiad (e.e. ymchwilydd gylfinirod, cydlynydd grŵp adar hirgoes neu fodrwywr BTO trwyddedig). Noder mai chi fydd yn gyfrifol am sicrhau'r trwyddedau a'r caniatâd angenrheidiol i gynnal y gwaith maes arfaethedig. Cysylltwch â Ni am wybodaeth bellach.
-
Canfod Nyth drwy Arsylwi Maes
-
Canfod Nyth drwy Lusgo Rhaffau
-
Prosesu Nyth Actif
-
Prosesu Nyth Wag
-
Amcangyfrif Dyddiad Deor
-
Cofnodwyr Tymheredd
-
Camerâu Nythod
-
Ffensio Nythod
-
Olrhain Cywion y Gylfinir gyda Radio