Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Amdanom ni
Mae Gylfinir Cymru / Curlew Wales yn weithgor ar y cyd rhwng sefydliadau sy'n cynrychioli sectorau o lywodraeth, cadwraeth, ffermio a rheoli helgig.
Nod Gylfinir Cymru / Curlew Wales yw gweithredu fel seinfwrdd beirniadol ac adnodd arbenigol i hyrwyddo a/neu gyflawni darpariaeth y dystiolaeth angenrheidiol a'r fframwaith sydd ei angen i bennu cyfeiriad strategol cadwraeth y gylfinir yng Nghymru.
Un o dasgau cyntaf y grŵp oedd cynhyrchu Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir, y gellir ei weld yma. Gwelir isod aelodau'r grŵp a gyfrannodd at gynhyrchu'r Cynllun Gweithredu.
Yn olaf, rydym yn ddiolchgar i Curlew Country, Callum Macgregor, Andy Page, Marcus Ward a Russell Wynn am ddarparu delweddau’r gylfinir ar gyfer y wefan hon.