top of page
Curlew_female(10-07-20).jpg

Cysylltwch â Ni

Rydym yn awyddus i ymgysylltu ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn achub y gylfinir yng Nghymru, a byddwn yn darparu cyfrwng ar gyfer llif gwybodaeth a chyllid yn y dyfodol i gefnogi'r rhai sy'n gweithio ar lawr gwlad. Nid oes cost ac nid oes unrhyw waith papur yn gysylltiedig ag ymuno â'n rhwydwaith, ac mae'r holl adnoddau ategol yn rhad ac am ddim. Mae ein partneriaid yn amrywio o unigolion brwdfrydig i sefydliadau cadwraeth mawr a thirfeddianwyr, ac yn cynnwys rheolwyr tir, ffermwyr, ciperiaid, llunwyr polisi, ymchwilwyr a gwylwyr adar.

 

Gallwn ni hefyd ddarparu gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ariannu gweithgareddau cadwraeth y gylfinir yng Nghymru.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, defnyddiwch e-bost Gylfinir Cymru / Curlew Wales:

helo@gylfinircymru.org

bottom of page