Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Curlew Recovery Partnership Blog
Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir
Paratowyd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir gan Gylfinir Cymru / Curlew Wales ar argymhelliad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo gwaith cadwraeth y gylfinir yng Nghymru. Os ymrwymir yn yr hirdymor i gefnogi'r camau a argymhellir yma yn unig y gellir cyflawni nodau ac amcanion y cynllun gweithredu hwn. Bydd angen i bob un o'r pedair llywodraeth yn y DU gydweithio’n barhaus er mwyn alinio'r nodau a'r amcanion hyn. Yng Nghymru, bydd angen rhannu adnoddau Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau parciau cenedlaethol, diwydiant, y byd academaidd, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, undebau ffermio ac unigolion trwy gydol y cyfnod adfer, a’u cynnwys mewn modd cydweithredol.
Mae Crynodeb Gweithredol y Cynllun Gweithredu isod, a gellir gweld y cynllun llawn yma.
-
Yn yr un modd â llawer o'r DU a llawer o rannau eraill o Ewrop, mae pob un o adar hirgoes bridio glaswelltiroedd Cymru – y gylfinir (Numenius arquata), y pibydd coesgoch (Tringa totanus), y cwtiad aur (Pluvialis apricaria) a’r gornchwiglen (Vanellus vanellus) – yn dirywio'n sylweddol, o safbwynt eu niferoedd a’u gwasgariad, o ganlyniad i gyfuniad o dri phwysau sylweddol: colli cynefinoedd, rheoli cynefinoedd mewn modd anffafriol, ac ysglyfaethu nythod/cywion.
-
Mae'r gylfinir yn rhywogaeth ymfudol iawn y mae angen camau gweithredu cadwraeth cydgysylltiedig yn y DU a Chymru yn ei chylch ar frys. Yn absenoldeb data arolwg cyfoes, mae amcangyfrifon o boblogaeth fridio’r gylfinir yn amrywio o 400 (allosod o arolwg ailadrodd sampl fach) i ddim mwy na 1,700 o barau bridio (allosod o ail arolwg BirdAtlas ledled Cymru). Mae data Arolwg Adar Bridio (BBS) yn dangos bod poblogaeth fridio’r gylfinir yng Nghymru yn gostwng ar gyfradd o 6% y flwyddyn.
-
Rhagwelir y bydd y gylfinir ar fin diflannu fel rhywogaeth fridio hyfyw yng Nghymru erbyn 2033. Oherwydd arwyddocâd yr argyfwng hwn, ystyrir mai’r gylfinir, erbyn hyn, yw’r flaenoriaeth cadwraeth adar bwysicaf yng Nghymru.
-
Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir yn nodi fframwaith i warchod gylfinirod sy’n bridio dros raglen weithredu o ddeng mlynedd (2021–2031) ac i sefydlogi'r dirywiad yn niferoedd gylfinirod sy’n bridio gyda'r nod o atal difodiant yng Nghymru.
-
Mae'r cynllun gweithredu hwn wedi'i gynllunio i alinio camau gweithredu ar gyfer adferiad â Chynllun Gweithredu Rhywogaeth Sengl Rhyngwladol ar gyfer Cadwraeth y Gylfinir yr AEWA (i'w adolygu yn 2025). Bydd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer y gylfinir yn cael ei adolygu a'i werthuso'n flynyddol gan Gylfinir Cymru / Curlew Wales (grŵp gweithredu gylfinirod Cymru), gydag arfarniad canol tymor yn 2026 i fesur cynnydd. Wedi'i argymell gan Lywodraeth Cymru, nod y cynllun hwn yw atal gylfinirod sy’n bridio rhag diflannu o Gymru fel sylfaen gweledigaeth tymor hwy i adfer poblogaeth gynaliadwy.
-
Mae'r fframwaith ar gyfer gweithredu wedi'i ddatblygu i safonau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol, gan gynnwys monitro a gwerthuso camau gweithredu, nodi bygythiadau, ac ymyriadadu/gweithgareddau mesuradwy.
-
Bydd camau cadwraeth â ffocws yn cael eu cyfeirio at rwydwaith o 12 o Ardaloedd Gylfinirod Pwysig (ICAs) ymgeisiol yng Nghymru. Bydd gan bob ICA brif sefydliad a phencampwr cymunedol sy'n gyfrifol am gyflawni mesurau ymyrryd ac asesu, monitro ac adrodd yn erbyn meini prawf perfformiad penodol.
-
Bydd Gylfinir Cymru yn ceisio cyllid i benodi rheolwr rhaglen gylfinirod Cymru gyfan, am dair blynedd i ddechrau, i gefnogi'r rhwydwaith o brif sefydliadau’r Ardaloedd Gylfinirod Pwysig a phencampwyr a chymunedau lleol, i fod yn llysgenhadon dros gylfinirod, ac i wneud y mwyaf o gyfleoedd ffafriol i reoli cynefinoedd ledled Cymru.
-
Er mwyn pennu metrigau demograffig sylfaenol (e.e. maint y boblogaeth, llwyddiant deor a llwyddiant bridio), cynhelir monitro safonol trwy raglen wirfoddol o wyddoniaeth dinasyddion.
-
Bydd gweithgor ICA yn cael ei roi at ei gilydd i sefydlu neu gryfhau rhwydweithiau lleol o gymunedau ffermioa rheolwyr tir eraill ym mhob ICA i hwyluso gwaith ar y cyd a chyfranogiad ac i ddatblygu moeseg gymunedol gref ar draws y rhwydwaith ICA i alluogi cyfnewid gwybodaeth, rhannu cynnydd a dull ‘gallu gwneud’ i gadwraeth gylfinirod.
-
Bydd Gylfinir Cymru yn ceisio lefelau cyllid priodol i weithredu'r mesurau ymyrryd gofynnol (rheoli cynefinoedd a rheoli ysglyfaethwyr) o fewn y rhwydwaith ICA a, lle bo hynny'n briodol, y tu allan i hwn.
-
Mae astudiaeth a gomisiynwyd, sy'n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, yn nodi nifer o fanteision cadw’r gylfinir, wedi'u fframio yng nghyd-destun meddwl yn wleidyddol, sy'n dangos manteision economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.
-
Mae'n hanfodol bod polisi a strategaeth, fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig, Cymru’r Dyfodol (y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol) a Datganiadau Ardal Cyfoeth Naturiol Cymru ac ati, wedi'u cynllunio i sicrhau lle i fyw, gweithio a chwarae, cynhyrchu bwyd, a defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy, er mwyn galluogi gylfinirod i ffynnu.
-
Bydd y gweithgor ICA yn nodi ac yn lliniaru pwysau a chyfyngiadau ar boblogaeth y rhwydwaith ICA ac yn defnyddio'r asesiadau hyn i nodi graddfa'r camau rheoli sy'n ofynnol i sicrhau rheolaeth briodol a chynaliadwy trwy bolisïau'r llywodraeth. Er enghraifft, bydd yn ceisio marchnata taliadau sy'n gysylltiedig â gylfinirod a nwyddau amgylcheddol, a/neu â phrosiectau nad ydynt yn gyhoeddus a ariennir (e.e. LIFE Nature, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) i fynd i'r afael â chyfyngiadau allweddol.
Ardal Gylfinirod Bwysig
Mae angen rhwydwaith mawr a chydlynol o dirweddau bridio sy'n gyfeillgar i gylfinirod ledled Cymru. Er mwyn sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i adfer y gylfinir yng Nghymru, bydd y cynllun hwn yn mabwysiadu dull wedi'i dargedu â ffocws, gan weithredu mewn 12 Ardal Gylfinirod Bwysig (ICAs) ymgeisiol (gweler y tabl a'r map isod). Mae'r rhain mewn tri Datganiad Ardal CNC (Gogledd-orllewin, Gogledd-ddwyrain a Chanolbarth Cymru) a gyda'i gilydd maent yn cynrychioli cymaint â 65% o boblogaeth fridio gylfinirod Cymru o bosibl. Er y bydd y rhwydwaith ICA a nodwyd yn ganolbwynt i ymdrechion adfer, dylai unrhyw dir â gylfinirod bridio fod yn gymwys i dderbyn taliadau rheoli tir i ddarparu cynefin ffafriol sy'n diwallu anghenion ecolegol y rhywogaeth hon.
Mae'r 12 o Ardaloedd Gylfinirod Pwysig yn adlewyrchu ein dealltwriaeth gyfredol o boblogaethau gylfinirod bridio a’y gwasgariad a'u strwythur yng Nghymru. Fe'u dewiswyd gan bartneriaid Gylfinir Cymru ac maent wedi'u hadeiladu o amgylch cyfuniad o wybodaeth leol, arolygon cyfoes a modelu poblogaeth, a lleoliadau lle mae pobl a sefydliadau brwdfrydig iawn ar gael ar gyfer cymryd y camau gweithredu angenrheidiol ar raddfa ddigonol i warchod gylfinirod sy’n bridio. Rydym o'r farn bod adfer y gylfinir ar draws y rhwydwaith ICA yng Nghymru yn bwysig ar gyfer cynnal cynrychiolaeth ddaearyddol ac ecolegol gylfinirod sy’n bridio, ac fel mecanwaith i ddiogelu cyfanrwydd amrywioldeb genetig y gylfinir. Os daw tystiolaeth newydd i'r amlwg bod angen Ardaloedd Gylfinirod Pwysig ychwanegol neu newidiadau ffiniau ar gyfer hyfywedd hirdymor y rhywogaeth, bydd y rhwydwaith ICA yng Nghymru yn cael ei adolygu yn unol â hynny.
Amcangyfrifon o boblogaeth gylfinirod sy’n bridio (nifer y parau bridio) ar gyfer Ardaloedd Gylfinirod Pwysig yng Nghymru. Mae'r ffigurau a'r gwerthoedd hyder hyn yn seiliedig ar naill ai ddata arolwg cyfoes (celloedd gwyrdd), amcangyfrifon wedi'u modelu (celloedd oren) neu farn arbenigol (celloedd llwyd). Mae Mynyddoedd De Clwyd yn cynnwys Mynydd Llantysilio (arolwg: 7 pâr), Dyffryn Dyfrdwy (model: 33 pâr) a Chwm Morwynion (model: 11 pâr). Mae'r map sy'n cyd-fynd yn dangos lleoliad yr Ardaloedd Cyrlod Pwysig.