top of page
Curlew1.jpg

Gwybodaeth am y Gylfinir

​

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am y gylfinir a'i gadwraeth, a chaiff ei hehangu gyda manylion pellach maes o law. Edrychwch ar ein tudalen Adnoddau am wybodaeth ychwanegol am arolygu a monitro gylfinirod sy’n bridio.

​

  • Ar 58,500 o barau bridio, ar hyn o bryd mae gan y DU oddeutu chwarter poblogaeth y gylfinir yn fyd-eang, gydag amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn amrywio rhwng 400 a 1700 pâr.

 

  • Fodd bynnag, mae data monitro cenedlaethol, a gydlynir gan BTO, yn dangos bod y boblogaeth hon wedi bod yn dirywio yn y tymor hir ers y 1970au ac mae bron wedi haneru yn y DU dros yr 20 mlynedd diwethaf.

 

  • Yng Nghymru, mae'r boblogaeth yn gostwng ar gyfradd o tua 6% y flwyddyn, gyda llawer o nythfeydd ar fin diflannu'n lleol.

 

  • Mae Prydain hefyd yn cefnogi tua 125,000 o ylfinirod gaeafol, ac mae'r niferoedd wedi gostwng mwy na 25% mewn 25 mlynedd; gyda llawer o'r adar hyn yn bridio ar gyfandir Ewrop.

 

  • O ganlyniad i ddirywiad yn y boblogaeth ledled Ewrop, mae’r gylfinir wedi'i restru fel un sydd mewn perygl o ddiflannu yn Ewrop, ac yn fyd-eang, ystyrir ei fod dan fygythiad.

bottom of page