top of page
curlew chicks in hand(crop).jpg

Cyfleoedd i wirfoddoli er budd y gylfinir yn 2024





Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr rhan amser i gymryd rhan yn y gwaith monitro gylfinirod sy’n magu trwy Gymru gyfan  rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2024.


Bydd cyfraniadau tuag at gostau teithio yn cael eu hystyried a darperir hyfforddiant yn dibynnu ar y lleoliad

 

Mae Gylfinir Cymru / Curlew Wales wedi’i ffurfio o bedwar ar ddeg o sefydliadau gwahanol sy'n cydweithio dros y gylfinir yng Nghymru: Partneriaeth Cadwraeth | Gylfinir Cymru

 

Mae poblogaeth yr aderyn eiconig hwn yn dirywio’n ddifrifol yng Nghymru.  Mae gwaith arolygu’n hanfodol i ddod o hyd i ylfinirod yn ystod y tymor magu er mwyn gallu rhoi mesurau cadwraeth ar waith.  Erbyn hyn mae yna brosiectau sydd o fudd i ylfinirod yn cael eu cynnal ledled Cymru.

 

Byddwch yn gwirfoddoli ochr yn ochr â staff y prosiect ac unigolion ymroddedig eraill. Bydd hyfforddiant ar gael mewn sawl rhan o Gymru, yn dibynnu ar eich lleoliad.   

 

Yn addas i fyfyrwyr sydd am wella eu sgiliau adnabod adar, i gael profiad pellach yn y sector cadwraeth neu unigolion eraill sydd am helpu i achub y gylfinir yng Nghymru. Anfonwch e-bost at hello@curlewwales.org a byddwn mewn cysylltiad i drafod pa ardal o Gymru sydd orau i chi. 

6 views0 comments
bottom of page