top of page
curlew chicks in hand(crop).jpg

Wedi gweld neu clywed y gylfinir yn 2024?



Ydych chi wedi gweld neu glywed y gylfinir yn ddiweddar?  

A oedd yn yr ucheldir neu ar dir fferm y gwanwyn hwn? Os felly, mae’n debygol iawn ei fod mewn ardal ble mae’n setlo i fagu eleni, sy’n newyddion gwych.

Mae nifer y gylfinirod sy’n magu yng Nghymru wedi gostwng dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae gwybod ble mae’r parau sy’n magu yn hanfodol i helpu gyda gwaith i wrthdroi’r dirywiad hwnnw.

Mae gwybodaeth ynghylch pryd mae’r adar eiconig hyn yn dychwelyd i’w hardaloedd magu am y tro cyntaf yn allweddol, ond mae cofnodion o adar drwy gydol y gwanwyn a dechrau’r haf hefyd yn bwysig iawn. 

 

Mae’r gylfinir yn dychwelyd i’w ardal fagu yn yr ucheldir o ddechrau mis Mawrth ymlaen, ac mae’r tiriogaethau magu yn cael eu sefydlu yn ystod mis Ebrill cyn i’r adar setlo i gori yr wyau. O ganol mis Mai rydym yn debygol o’u gweld yn gwarchod eu cywion ac o glywed eu cri i amddiffyn yr adar ifanc. Mae clywed cri yr adar yn eu hardaloedd magu tua diwedd mis Mehefin neu hyd yn oed hyd at fis Gorffennaf yn awgrymu bod ganddynt gywion yn agos iawn at adael y nyth.

 

Os byddwch yn gweld neu’n clywed y gylfinir unrhyw le yng Nghymru gallwch roi’r wybodaeth honno i Cofnod, y ganolfan cofnodion biolegol. Mae gan eu gwefan Cofnod - Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru dudalen arbennig ar gyfer cofnodi’r gylfinir. Bydd yr holl gofnodion yn cael eu pasio ymlaen at y person mwyaf perthnasol sy’n gweithio ar y gylfinir yn eich ardal chi o Gymru.   

Os ydych o fewn un o’r ardaloedd a restrir isod, neu’n agos atynt, gallwch anfon y wybodaeth yn syth at:

 

Os hoffech wybod mwy am y prosiectau sy’n gweithio dros y gylfinir ar hyd a lled Cymru yn 2024 ewch i’r Tudalennau Blog ar y wefan hon.

25 views0 comments
bottom of page