top of page
curlew chicks in hand(crop).jpg

Nodyn Gylfinir Cymru: Gweithdy Rheoli Ysglyfaethwyr y Gylfinir 15 Rhagfyr 2022



Diben Cytunodd Gylfinir Cymru fod angen asesu’r dystiolaeth sydd ar gael o bwysau ysglyfaethu ar ylfinirod Numenius arquata sy’n magu (gweler Cyfarfodydd 11: 4 Gorffennaf 2022 a 12: 22 Medi 2022). I fynd i’r afael â’r angen hwn, cynhaliwyd gweithdy ar 15 Rhagfyr 2022 gyda gwahoddiad agored i holl bartneriaid Gylfinir Cymru. Prif ddiben y gweithdy oedd datblygu syniadau i gefnogi datganiad safbwynt Gylfinir Cymru ar rôl rheoli ysglyfaethwyr fel mecanwaith ar gyfer adfer y gylfinir, ond hefyd ystyried anghenion tystiolaeth tymor hwy i alluogi camau cadarnhaol ond cynaliadwy ar gyfer adfer y gylfinir yng Nghymru. Gwnaeth grŵp gorchwyl a gorffen bach[1] ymgynnull i bennu agenda a nodyn briffio ar gyfer y gweithdy hwn. Agorwyd y gweithdy gan Ian Danby (Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain), sef cadeirydd dros dro Gylfinir Cymru, a daeth Patrick Lindley (CNC) i’r gadair ar gyfer y sesiwn gweithdy. Dechreuodd y gweithdy drwy osod y cefndir ar y dystiolaeth bod pwysau ysglyfaethu yn ffactor sy’n cyfyngu ar lwyddiant magu'r gylfinir: cyflwyniad gan Andrew Hoodless (Ymddiriedolaeth Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt) – Ymateb gylfinirod sy'n magu i reoli ysglyfaethu a chyflwyniad gan David Douglas (Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar) – Ysglyfaethu ar nythod a chywion y gylfinir. Trafodwyd set o egwyddorion drafft, a daeth y sesiwn i ben gyda’r angen i gyflwyno nodyn tystiolaeth o’r egwyddorion i Gylfinir Cymru ei fabwysiadu. Rhoddir yr agenda yn Atodiad 1. Cefndir Un o'r cwestiynau ecolegol clasurol yw sut mae ysglyfaethwyr yn effeithio ar faint poblogaethau ysglyfaeth. Mae ysglyfaethu yn broses naturiol, ac eto mae pryderon cynyddol ynghylch y rôl y mae ysglyfaethu yn ei chwarae fel sbardun i newid yn y boblogaeth mewn poblogaethau sydd eisoes yn dirywio. Mae sut i reoli ysglyfaethu yn ennyn emosiynau cryf ac amrywiol a gall achosi ymatebion pegynedig a gwrthwynebol. Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau adar sy'n magu yn y DU yn profi ysglyfaethu, o leiaf yn ystod amser neu gyfnod hanes bywyd arbennig o agored i niwed (e.e. cyfnodau wy a chyw).

Dangoswyd y gall cynhyrchiant nythu adar sy’n nythu ar y ddaear, gan gynnwys rhydwyr, gael ei gyfyngu gan ysglyfaethu wyau a chywion (Roos ac eraill, 2018) ac y gall hyn atal adferiad poblogaethau llai. Mae mesurau i fynd i’r afael ag ysglyfaethu yn cael eu llywodraethu gan fframweithiau cyfreithiol sydd wedi’u hen sefydlu, ac mae’r rhain, mewn perthynas ag ysglyfaethu adar o leiaf, yn gofyn am ystyried atebion nad ydynt yn farwol. Mae consensws eang hefyd na fydd rheoli ysglyfaethwyr yn unig yn arwain at adferiad cynaliadwy i'r gylfinir.

Mae tystiolaeth yn dangos y gellir defnyddio rheolaeth farwol o ysglyfaethwyr i leihau nifer yr ysglyfaethwyr cyffredinol, sef llwynogod Vulpes vulpes a brain tyddyn Corvus corone, ar raddfa safle a rhanbarthol (Bolton ac eraill, 2007; Baines ac eraill, 2008; Fletcher ac eraill, 2010). Mae astudiaethau’n dangos bod rheoli ysglyfaethwyr ar rostiroedd grugieir yn ucheldiroedd y DU yn arwain at ddwysedd magu uwch ar gyfer rhydwyr, gan gynnwys y gylfinir, nag ar weundir heb unrhyw reolaeth ysglyfaethwyr, ac mae cynnydd ym mhoblogaethau rhydwyr wedi’i ddogfennu ar ôl adfer mesurau, neu ddefnyddio mesurau arbrofol, i reoli ysglyfaethwyr (Tharme ac eraill, 2001; Fletcher ac eraill, 2010; Littlewood ac eraill, 2019; Ludwig ac eraill, 2019). Ym mhob un o’r achosion hyn, roedd rhywogaethau ysglyfaethwyr lluosog yn cael eu rheoli’n farwol ar draws tirweddau mawr, gan arwain at gynnydd canfyddadwy yn niferoedd ysglyfaethau. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o astudiaethau rheoli ysglyfaethwyr a ddyfynnir, mae'n anodd pennu cyfraniad cymharol rhywogaethau unigol o ysglyfaethwyr i ymateb ysglyfaeth (Roos ac eraill, 2018) ac, yng Nghymru, dim ond cyfran fach o boblogaeth gylfinirod sy’n magu ar dir a reolir ar gyfer saethu grugieir. Yn yr un modd, nid oes unrhyw astudiaethau gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid sy'n ymchwilio i neu'n pennu effeithiolrwydd gwahanol ddulliau rheoli ysglyfaethwyr, megis saethu a maglu, gwahanol lefelau o ymdrech a dwyster, a dylanwad nodweddion tirwedd neu'r ardal leiaf lle y dylid defnyddio rheolaeth. Felly mae'n anodd deall cyfraniad cymharol rheoli ysglyfaethwyr at gyflawni cynhyrchiant magu blynyddol digonol ar gyfer y gylfinir ar lefel poblogaeth. Mae nifer o fylchau yn y dystiolaeth, megis yr angen i ddeall nid yn unig y lefel ofynnol o ymdrech i reoli ysglyfaethwyr marwol ar safle i bennu ymateb o ran llwyddiant magu’r gylfinir, ond hefyd effeithiolrwydd y gwahanol fesurau rheoli marwol sydd eu hangen i gynyddu llwyddiant magu’n ddigonol i gynhyrchu llwybr poblogaeth sy'n gwella. Nid oes unrhyw astudiaethau dwys o oroesiad cywion y gylfinir na llawer o wybodaeth am sut i amddiffyn nytheidiau'r gylfinir yn effeithiol nes iddynt fagu plu. Bellach mae rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd ar y safle y gall gosod ffensys trydan ar ardaloedd cymharol fach o amgylch nythod y gylfinir gynyddu llwyddiant deor ar laswelltir yn sylweddol, ond nid yw hyn yn amddiffyn nytheidiau. Mae gosod ffensys trydan ar draws ardaloedd daearyddol mwy i gynnwys nythod lluosog ac ardaloedd magu nytheidiau yn ei hanfod yn ddrud ac yn anoddach ar gyfer y gylfinir nag ar gyfer y gornchwiglen Vanellus vanellus, ond gall fod yn briodol ar rai safleoedd. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran deall cydberthnasau rhwng ysglyfaethwyr ac ysglyfaethau ac ymateb rhai rhywogaethau ysglyfaethau ar ôl rheoli ysglyfaethwyr, ond mae llawer o gwestiynau yn parhau. Er enghraifft, nid yw effeithiau rheoli ysglyfaethwyr bob amser yn amlwg (e.e. Bodey ac eraill, 2011). Darganfyddodd Bolton ac eraill (2007) nad oedd lleihau niferoedd llwynogod a brain tyddyn yn cael unrhyw effaith ar gyfraddau goroesi nythod na chywion y gornchwiglen, nac ar dueddiadau'r boblogaeth, er bod dwywaith yn fwy o barau yn magu cywion mewn rhai safleoedd lle defnyddiwyd dull amgen o fesur llwyddiant magu yn ystod cyfnodau o reoli ysglyfaethwyr. Dangosodd Douglas ac eraill (2023) na ellir cymryd yn ganiataol y bydd rheoli llwynogod a brain yn achosi'r cynnydd dymunol mewn cynhyrchiant gylfinirod sy’n magu ar draws tirweddau’r DU, o leiaf ar ddwyster y bernir ei bod yn gyraeddadwy i ffwrdd o rostiroedd grugieir a yrrir. Gall effaith rheoli ysglyfaethwyr ar gyfraddau goroesi nythod amrywio yn dibynnu ar ddwysedd yr ysglyfaethwyr a oedd yn bresennol ar y pryd (Bolton ac eraill, 2007). Mae sawl meta-ddadansoddiad o effaith rheolaeth farwol ar boblogaethau adar wedi dod i'r casgliad bod yr effaith gyffredinol gyfartalog yn gadarnhaol ond bod amrywiaeth mawr ym maint yr effeithiau ymhlith rhywogaethau a lleoliadau (Côté a Sutherland, 1997; Smith ac eraill, 2010). Mae yna lawer o achosion posibl ar gyfer ymatebion amrywiol i ddileu ysglyfaethwyr, gan gynnwys amrywiad blynyddol yn niferoedd ysglyfaethwyr neu ysglyfaethau amgen, effeithiau gan ysglyfaethwyr eraill nad ydynt wedi'u targedu, effeithiau sy'n dibynnu ar ddwysedd, amrywiadau unigol mewn ymddygiad ysglyfaethwyr, dull(iau) rheoli ysglyfaethwyr, neu ddwysedd amrywiol o reoli ysglyfaethwyr. Er y gall rheoli marwol leihau dwysedd ysglyfaethwyr ar safleoedd, mae cyfraddau mewnfudo uchel yn dangos bod llwynogod wedi’u difa yn cael eu hailsefydlu'n gyflym fel bod angen difa dwys i gynnal dwysedd isel (Porteus ac eraill, 2019), gan gwestiynu cynaliadwyedd biolegol, gofodol, moesegol ac ariannol rheolaeth farwol fel ateb parhaol. Mae’n bosibl hefyd na fydd rheoli un rhywogaeth ysglyfaethwr ‘allweddol’ yn cyflawni’r canlyniad cadwraeth a ddymunir oherwydd ysglyfaethu cydadferol posibl, a all gynnwys effeithiau cyfunol llwynogod, brain ac ysglyfaethwyr eraill (Roos ac eraill, 2018). Cytunodd Gylfinir Cymru ar y canlynol: · Y rheswm allweddol sy’n gyrru dirywiad y gylfinir yn y DU yw llwyddiant magu gwael ar hyn o bryd (Grant ac eraill, 1999; Brown ac eraill, 2015; Douglas ac eraill, 2021). · Mae tystiolaeth wyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid yn awgrymu bod ysglyfaethu wyau a chywion yn yrrwr allweddol i fethiant magu'r gylfinir a gostyngiad yn y boblogaeth (Grant ac eraill, 1999; Brown ac eraill, 2015; Douglas ac eraill, 2021). · Mae monitro nythod yn amlygu bod llwynogod yn ysglyfaethwr mynych, os nad y prif feso-ysglyfaethwr o nytheidiau gylfinir, gyda cholledion pellach i weithgarwch amaethyddol, gan gynnwys torri, rholio, a sathru / bwyta wyau gan dda byw (Colwell ac eraill, 2020). Mae ystod o ysglyfaethwyr mamalaidd ac adar eraill wedi'u cofnodi yn ysglyfaethu nytheidiau ond mae effaith gymharol y rhain, ac amrywiadau ar draws safleoedd a blynyddoedd, yn aneglur. · Mae gan y DU ddwysedd llwynogod a brain tyddyn sy'n uchel o gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill ac mae’r ysglyfaethwyr hyn wedi cynyddu’n rhifiadol yn y DU yn y degawdau diwethaf (Roos ac eraill, 2018; Roos ac eraill, 2021). Mae gan Gymru’r dwysedd uchaf ond un o lwynogod ar draws gwledydd Ewropeaidd (Roos ac eraill, 2021). O ganlyniad, mae Gylfinir Cymru yn ystyried y canlynol: · O ystyried y perygl o ddifodiant y gylfinir yng Nghymru erbyn 2023 (Taylor ac eraill, 2023) bod adferiad y gylfinir ar raddfa'r dirwedd yn annhebygol heb lai o bwysau ysglyfaethu ar gywion ac wyau. I gyflawni hyn, bydd angen pecyn o fesurau er mwyn mynd i'r afael ag ansawdd cynefinoedd a ffactorau lleol a allai fod yn dylanwadu ar niferoedd ysglyfaethwyr ac i leihau cyfraddau ysglyfaethu ar nythod a chywion. Bydd angen gwneud hyn ar lefel lleol a chenedlaethol, fel yr amlinellir yng Nghynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir ( Gylfinir Cymru, 2021)

· O dan amgylchiadau arferol, dim ond ar ôl rhoi cynnig ar ddulliau nad ydynt yn farwol a chanfod eu bod yn aneffeithiol y byddai rheoli ysglyfaethwyr trwy ddulliau marwol yn cael ei ystyried. Fodd bynnag, mae cyflwr dirywiad y gylfinir yng Nghymru yn golygu y gallem ystyried rheolaeth ar lwynogod a brain fel mesur brys, a wastad ar y cyd ag ymyriadau eraill, hyd yn oed pan na roddwyd cynnig ar bob dull nad yw’n farwol. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid inni beidio â chuddio ein bod yn cynnig rheolaeth farwol yn absenoldeb tystiolaeth bendant o’i manteision, a rhaid i gasglu’r dystiolaeth honno fod yn rhan ganolog o unrhyw brosiect o’r fath. Bydd hwn yn ddull drud a dadleuol (Colwell ac eraill, 2020), byddai angen iddo barhau am flynyddoedd lawer er mwyn i effeithiau cadarnhaol barhau, ac nid oes unrhyw sicrwydd o lwyddiant (Douglas ac eraill, 2023). Fodd bynnag, yn y tymor byr o leiaf, ystyrir y bydd angen rheoli llwynogod a brain gan ddefnyddio dulliau effeithiol â ffocws ar safleoedd allweddol er mwyn cyfrannu at gynyddu llwyddiant magu'r gylfinir o’r lefelau presennol sydd yn isel iawn.

· lle y gwneir hynny, rhaid dylai bod rheolaeth llwynogod a brain gael ei chyfuno â mesurau i leihau’r ffactorau sy’n achosi pwysau ysglyfaethu uchel, neu o leiaf beidio â chyfrannu at y gyrwyr hynny. Mewn rhai sefyllfaoedd, gallai nifer yr ysglyfaethwyr cyffredinol gynyddu – er enghraifft, o ganlyniad i fethiant i gael gwared ar dda byw marw, creu coetir, a rhyddhau dwyseddau uchel o adar hela. Mae’n bosibl y bydd ymchwil barhaus yn nodi pwysigrwydd y rhain mewn tirweddau ar gyfer gylfinirod sy’n magu. Bylchau tystiolaeth Penderfynodd Gylfinir Cymru fod bylchau allweddol yn y dystiolaeth: 1. Beth sy'n dylanwadu ar ymddygiad a helaethrwydd ysglyfaethwyr?

Nid yw'n glir p'un a yw ysglyfaethwyr yn gweithredu'n gyfartal trwy boblogaeth ysglyfaeth. Gallant grynhoi mewn lleoliadau penodol, er enghraifft, lle mae ysglyfaethau yn anarferol o doreithiog neu'n agored i niwed. Mae angen gwell gwybodaeth i ddeall sut mae nodweddion tirwedd, megis cynefinoedd llinol a darnio cynefinoedd, yn dylanwadu ar helaethrwydd meso-ysglyfaethwyr ac ymddygiad chwilota am fwyd, a sut y gall rôl addasu cynefinoedd ddylanwadu ar chwilota ysglyfaethus.

2. Pam mae dwysedd anghymesur o uchel o feso-ysglyfaethwyr yng Nghymru a'r DU o gymharu â gwledydd Ewropeaidd?

Mae’r rhesymau dros y dwyseddau mor uchel yn aneglur ond mae nifer o ffactorau a allai achosi niferoedd ysglyfaethwyr wedi’u hawgrymu, megis mwy o gymorth bwyd yn sgil rhyddhau adar hela estron ar raddfa fawr (Pringle ac eraill, 2019; Baines, 2023), ychwanegiadau bwyd anthropogenig eraill, a rôl coetir o ran cynnal a gweithredu fel lloches i ysglyfaethwyr cyffredinol. Ni chanfu adolygiad cyflym o dystiolaeth o ryddhau adar hela ar dir isel yn Lloegr unrhyw dystiolaeth i brofi neu wrthbrofi’r ddamcaniaeth cymorth bwyd (Madden a Sage, 2020). Dangosodd Douglas ac eraill (2014) y gall coetir gael ei gysylltu’n negyddol â llwyddiant magu'r gylfinir.

3. Beth yw effaith rheoli un rhywogaeth o ysglyfaethwr?

Dangosodd Roos ac eraill (2018) y gall ysglyfaethu, yn bennaf gan lwynogod a mamaliaid estron, gyfyngu ar nifer y rhywogaethau sy’n nythu ar y ddaear fel rhydwyr, adar hela ac adar môr. Roeddent yn awgrymu bod rheoli ysglyfaethwyr sydd wedi’i hanelu at lwynogod a brain ar yr un pryd yn fwy tebygol o arwain at boblogaethau ysglyfaethau sefydlog neu gynyddol, ond nid yw’n glir p'un a yw llwyddiant magu’r gylfinir yn cynyddu mewn ymateb i gael gwared ar un ysglyfaethwr, fel llwynogod, neu rywogaethau lluosog (e.e. llwynogod a brain tyddyn).

4. Beth yw'r raddfa briodol a'r hyd priodol ar gyfer rheoli ysglyfaethwyr sy'n ofynnol i ddarparu ymateb gan y gylfinir?

Mae tystiolaeth o effeithiolrwydd rheoli llwynogod a brain mewn tirweddau ffermio yng Nghymru yn anodd ei chanfod ac ymhell o fod yn bendant. Mae yna nifer o resymau a all esbonio dim effaith rheoli ysglyfaethwyr ar lwyddiant nythod rhydwyr sy'n magu mewn arbrofion ar dir fferm, megis: amrywiad blynyddol mewn mathau eraill o ysglyfaethau (e.e. amrywiadau mewn llygod y gwair), y cyd-destun safle-benodol (e.e. maint y coetir neu nifer yr adar hela – Douglas ac eraill, 2023), rheolaeth heb ei chyflawni ar ddwysedd digon uchel, effeithiau dibynnol ar ddwysedd, ac amrywiad unigol yn ymddygiad chwilota ysglyfaethwyr. Yn ôl yr hyn a adroddir gan Douglas ac eraill (2023), hyd yn hyn nid oes astudiaeth wyddonol gyhoeddedig wedi’i chynnal y tu allan i ardaloedd a reolir ar gyfer y rugiar goch sydd wedi gallu ailadrodd lefel ymateb rhydwyr sy'n magu, naill ai o ran llwyddiant magu a/neu niferoedd oedolion. Mae'n parhau i fod yn aneglur beth yw'r raddfa ofodol ac ymdrech leiaf i reoli ysglyfaethwyr i ddangos llwyddiant magu gylfinirod sydd o leiaf yn 0.5 cyw fesul pâr sy'n magu.

Mae angen ymchwil bellach hefyd ar ysglyfaethu nytheidiau'r gylfinir a ph'un a yw rheolaeth gyfreithiol ar ysglyfaethwyr yn rhoi'r un manteision â goroesiad nythod. 5. Beth yw rôl rheoli ysglyfaethwyr ar y cyd â ffensys gwrth-ysglyfaethwyr? Profwyd bod ffensys cyfyngu trydan, a ddefnyddir yn nodweddiadol fel adeiledd parhaol, o fudd i gornchwiglod sy’n magu mewn gwarchodfeydd natur glaswelltir gwlyb. Mae’n ansicr eto p'un a fydd ffensys trydan dros dro, a godwyd cyn neu yn ystod tymor magu’r gylfinir, yn gwella llwyddiant magu'r gylfinir. Mae'n parhau i fod yn aneglur p'un a oes angen rheoli ysglyfaethwyr ar y cyd â ffensys trydan.


Cyfeiriadau Baines, D., Redpath, S., Richardson, M. a Thirgood, S. 2008. The direct and indirect effects of predation by Hen Harriers Circus cyaneus on trends in breeding birds on a Scottish grouse moor. Ibis 150, 27–36. Baines, D., Fletcher, K., Hesford, N., Newborn, D. a Richardson, M. 2023. Lethal predator control on UK moorland is associated with high breeding success of curlew, a globally near‑threatened wader. European Journal of Wildlife Research 69: 6. Bodey, T. W., McDonald, R. A., Sheldon, R. D. a Bearhop, S. 2011. Absence of effects of predator control on nesting success of Northern Lapwings Vanellus vanellus: Implications for conservation. Ibis 153, 543–555. Bolton, M.A., Tyler, G., Smith, K. a Bamford, R. 2007. The impact of predator control on lapwing Vanellus vanellus breeding success on wet grassland nature reserves. Journal of Applied Ecology 44, 534–544. Brown, D., Wilson, J., Douglas, D., Thompson, P., Foster, S., McCulloch N., Phillips, J., Stroud, D., Whitehead, S., Crockford, N. a Sheldon, R. 2015. The Eurasian Curlew – the most pressing bird conservation priority in the UK? British Birds 108, 660–668. Colwell, M., Hilton, G. a Smart, M. 2020. Saving England’s lowland Eurasian Curlews. Brit. Birds 113: 279–292. Côté, I. M., a W. J. Sutherland. 1997. The effectiveness of removing predators to protect bird populations. Conservation Biology 11: 395–405. Douglas, D. J. T., Bellamy, P. E., Stephen, L. S., Pearce-Higgins, J. W., Wilson, J. D. a Grant, M. C. 2014. Upland land use predicts population decline in a globally near-threatened wader. Journal of Applied Ecology 51, 194–203. Douglas, D.J.T. ac eraill. 2021. Recovering the Eurasian Curlew in the UK and Ireland: progress since 2015 and looking ahead. British Birds 114, 341–350. Douglas, D.J.T. ac eraill. 2023. Varying responses of breeding waders to experimental manipulation of their habitat and predators. Journal for Nature Conservation. 72. Fletcher, K., Aebischer, N. J., Baines, D., Foster, R. a Hoodless, A. N. 2010. Changes in breeding success and abundance of ground-nesting moorland birds in relation to the experimental deployment of legal predator control. Journal of Applied Ecology 47, 263–272. Grant, M. C., Orsman, C., Easton, J., Lodge, C., Smith, M., Thompson, G., Rodwell, S. a Moore, N. 1999. Breeding success and causes of breeding failure of Curlew Numenius arquata in Northern Ireland. J. App. Ecol. 36: 59–-74. Littlewood, N. A., Mason, T. H. E., Hughes, M., Jaques, R., Whittingham, M. J. a Willis, S. G. 2019. The influence of different aspects of grouse moorland management on nontarget bird assemblages. Ecology and Evolution, 9, 11089–11101. Ludwig, S. C., Roos, S. a Baines, D. 2019. Responses of breeding waders to restoration of grouse management on a moor in South-West Scotland. Journal of Ornithology 160, 789–797. Madden, J.R. a Sage, R.B. 2020. Ecological Consequences of Gamebird Releasing and Management on Lowland Shoots in England: A Review by Rapid Evidence Assessment for Natural England and the British Association of Shooting and Conservation. Natural England Evidence Review NEER016. Natural England. Porteus, T. A, Reynolds, J. C, McAllister, M. K. 2019. Population dynamics of foxes during restricted-area culling in Britain: Advancing understanding through state-space modelling of culling records. PLoS ONE 14(11): e0225201. Pringle, H., Wilson, M., Calladine, J., a Siriwardena, G. (2019). Associations between gamebird releases and generalist predators. Journal of Applied Ecology 56, 2102–2113. Roos, S. Smart J., Gibbons, D. W. a Wilson, J. D. 2018. A review of predation as a limiting factor for bird populations in mesopredator-rich landscapes: a case study of the UK. Biological Reviews 93, 1915–1937. Roos, S. Smart J., Gibbons, D. W. a Wilson, J. D. 2022. Corrigendum to ‘A review of predation as a limiting factor for bird populations in mesopredator-rich landscapes: a case study of the UK’, published in Biological Reviews 93, 1915–1937. Biological Reviews 97, 600–603. Smith, R. K, Pullin A. S, Stewart, G. B. a Sutherland, W. J. 2010. Effectiveness of Predator Removal for Enhancing Bird Populations. Conservation Biology 24, 820–829. Tharme, A. P., Green, R. E., Baines, D., Bainbridge, I. P. ac O'Brien, M. 2001. The effect of management for red grouse shooting on the population density of breeding birds on heather-dominated moorland. Journal of Applied Ecology 38, 439–457.


Atodiad 1. Agenda


1. Croeso (Cadeirydd, Gylfinir Cymru)


2. Cyflwyniad a nodau’r gweithdy ysglyfaethu (Patrick Lindley, CNC)


3. Trosolwg o ysglyfaethu nythod a chywion y gylfinir (David Douglas, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar)


4. Ymateb gylfinirod sy'n magu i reoli ysglyfaethwyr (Andrew Hoodless, yr Ymddiriedolaeth Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt)


5. Amlinelliad o'r egwyddorion arfaethedig (Patrick Lindley, CNC)


6. Trafodaeth (Pawb)


7. Cloi (Cadeirydd, Gylfinir Cymru)

[1] David Douglas a Michael MacDonald, Prif Wyddonwyr Cadwraeth (Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar); Andrew Hoodless, Pennaeth Ymchwil (Ymddiriedolaeth Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt); Ian Danby, Pennaeth Bioamrywiaeth (Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain); a Patrick Lindley, Uwch-adaregydd (CNC).




7 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page