Ffilm Gymreig am y gylfinir yn tynnu sylw at dynged yr aderyn eiconig
- hello25754
- Jul 21
- 3 min read
Updated: Sep 22
Mae ffilm a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan artist ffilm sydd wedi’i lleoli yn y Bala yn tynnu sylw at ei phrofiad personol o ran colled y Gylfinir o’r ardal ble cafodd ei magu.
Magwyd Malka Holmes yng Nghwm Hesgin, dyffryn anghysbell i’r gogledd o Lyn Celyn. Drwy gydol ei phlentyndod roedd sŵn gylfinirod yn magu yn gyfarwydd iawn i’w holl deulu ac fe ysbrydolodd ei thad i ysgrifennu ei gerdd, Curlew’s Nest.
Mae Greengage Films wedi cynhyrchu ffilm 8 munud o hyd yn dangos gylfinirod yn eu tiroedd magu a hefyd yn trafod ymdrechion amrywiaeth o bobl i helpu’r boblogaeth bresennol o’r aderyn hwn, y mwyaf nodedig o adar ffermdir ucheldirol Cymru.
“Mae fy ffilm ddiweddaraf, Stunned by Silence / Syfrdan gan Ddistawrwydd, yn ffilm ymgyrchu sy’n trafod dirywiad y Gylfinir. Mae wedi bod yn waith llafur cariad ac fe dyfodd allan o fy mhrofiad personol i yn tyfu i fyny mewn bwthyn anghysbell ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae Cwm Hesgin yn ddyffryn gwyllt tu hwnt o anghysbell i’r gogledd o’r Bala, o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r bwthyn wedi’i amgylchynu gan fawndir ac mae cyfran helaeth o’r dyffryn wedi’i dynodi’n SoDdGA.
Fel plentyn byddwn i’n edrych ymlaen bob gwanwyn at glywed y Gylfinir yn dychwelyd i fagu ger y bwthyn. Byddwn i’n arfer mynd allan gyda binocwlars i wylio’r Gylfinir ar y gweunydd ac yn aml yn taro ar Iolo Williams i fyny yno, a oedd yn swyddog rhywogaethau’r RSPB ar y pryd. Ry’n ni bellach yn gweithio gyda’n gilydd ar ffilmiau bywyd gwyllt.
Yn anffodus, tua ugain mlynedd yn ôl diflannodd y Gylfinir o’r dyffryn ble ces i fy magu. Ddaethon nhw byth yn ôl i’r tiroedd nythu yma. Dyna pam dewisais i’r teitl Syfrdan gan Ddistawrwydd, am ei bod hi mor ddistaw i fyny yno erbyn hyn, wedi colli cri’r Gylfinir.
Bu fy nhad, Clyde Holmes, yn byw yng Nghwm Hesgin am dros ddeugain mlynedd. Roedd yn fardd ecolegol ac yn artist ac fe baentiodd dirwedd yr ucheldiroedd. Mae’n dirwedd sy’n newid o hyd. Daeth yr ysbrydoliaeth i lunio’i gerdd Curlew’s Nest yn sgil y cyfarfyddiadau niferus a gafodd â’r Gylfinir ac mae’r gerdd hon, a’r cyfieithiad Cymraeg Nyth y Gylfinir, yn ymddangos yn y ffilm.
Nyth y Gylfinir
Rhaid ei fod ger y ffermdy
Ers wythnosau bellach
Clywn duchan sgrech o’i fegin wichlyd
Uwch fy mhen, ei big yn gilgant
Yn gysgod cryman tywyll.
Ar adain dân
Daw cyrch o’r awyr
Gan boeri ei ddicter
Mewn rhythm dryll di-dor
Pan gamaf tu hwnt
I dir ei droelli
Daw pall ar ei dôn drwy ryw ledrith
Safaf yn stond mewn distawrwydd.
(Clyde Holmes, cyfieithiad gan Rhodri ap Dyfrig)
Drwy gydol fy ngyrfa, rydw i wedi dod ar draws pobl sydd â chymaint o ymroddiad ac angerdd ym myd cadwraeth y Gylfinir, pob un yn dod at y pwnc o wahanol onglau. Roedd hyn hefyd yn rhan o’r ysbrydoliaeth i gynhyrchu Syfrdan gan Ddistawrwydd. Dw i’n teimlo bod y ffilm yn adlewyrchu’r amrywiaeth hon a phwysigrwydd cyfranogiad pawb os oes gobaith i ni achub y rhywogaeth eiconig hon rhag difodiant.
Mae’r cyfranwyr yn y ffilm yn enghraifft o hyn – Mary Colwell gyda’i hymroddiad i fyd natur, David Gray a’i egni creadigol, Dion Williams, ffermwr sydd â chysylltiad dwfn â’r Gylfinir ar ei dir, a Lucy Foster a Sam McCready o’r RSPB sy’n gweithio’n ddiflino drwy gydol y tymor nythu i amddiffyn a monitro’r Gylfinir.
Nod y ffilm hon yw ysbrydoli pobl i achub y Gylfinir rhag difodiant. Dywed David Gray yn y ffilm “Mae gweithredu’n gysur. Dw i’n meddwl bod hynny’n neges bwysig o ran cadwraeth ac mae’n rhoi rhywfaint o obaith i achub yr aderyn prydferth hwn a’r ecosystemau a’r cynefinoedd y mae’n dibynnu arnynt i oroesi.”
Mae Malka yn hapus i unrhyw un sy’n gweithio yng Nghymru neu’r tu hwnt ddefnyddio’r ffilm i godi ymwybyddiaeth o dygned y Gylfinir.
Os hoffech ddefnyddio’r ffilm mae croeso i chi ei lawrlwytho o wefan Greengage https://www.greengagefilms.com/portfolio-item/stunned-by-silence/
Neu cysylltwch â Malka i drafod ei defnyddio greengagefilms@gmail.com

.jpg)



Comments