top of page
curlew chicks in hand(crop).jpg

Diwrnod Gylfinir y Byd 2025. Dathlu Grym Gwirfoddolwyr

  • hello25754
  • Apr 16
  • 5 min read

Sant Beuno yw nawddsant gylfinirod.  Yn ôl y chwedl, bendithiodd y gylfinir ar ôl i’r aderyn achub ei lyfr gweddi rhag y tonnau wrth iddo groesi’r môr. Ac yn dilyn y fendith byddai bob amser yn anodd canfod nythod gylfinirod, sy’n eithaf her i arolygwyr gylfinirod hyd heddiw. Dyddiad gŵyl Sant Beuno yw 21 Ebrill a dyna pam y cafodd y diwrnod ei ddewis gan Mary Colwell, awdur a hyrwyddwr gylfinirod, fel Diwrnod Gylfinir y Byd.  Mae’n gyfle inni ddathlu’r aderyn eiconig hwn a hefyd yn gyfle inni gydnabod pawb sy’n gweithio’n galed er budd gylfinirod yng Nghymru.


Mae tymor magu gylfinirod 2025 wedi cychwyn.  Ceir adroddiadau bod yr adar bellach yn dychwelyd i'w mannau magu i fwydo ac i sefydlu tiriogaeth cyn dodwy eu nythaid o bedwar wy. Bydd y cyfnod deori yn dechrau ddiwedd mis Ebrill a dechrau mis Mai ac rydym yn gobeithio gweld y cywion cyntaf yn deor ddiwedd mis Mai neu’n gynnar ym mis Mehefin.


Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir yn nodi deuddeg Ardal Gylfinir Bwysig lle mae nifer o sefydliadau ledled Cymru yn canolbwyntio eu hymdrechion i warchod y rhywogaeth eiconig hon.  Mewn llawer o'r Ardaloedd Pwysig hyn mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r gwaith hwn ac yn gweithio ochr yn ochr â staff proffesiynol i fonitro tiriogaethau’r gylfinirod a helpu mewn sawl ffordd.

Un o'r dulliau sydd wedi cael eu datblygu dros y blynyddoedd diwethaf yw gosod ffensys trydan dros dro o amgylch nythod y gylfinir i atal ysglyfaethwyr rhag dwyn eu hwyau ac hefyd lleihau aflonyddu gan stoc.


Mae timau o wirfoddolwyr wedi cael eu hyfforddi i arolygu gylfinirod a hefyd i godi’r ffensys o amgylch y nythod.  Bydd y ffens yn cael ei gosod unwaith y bydd y nyth wedi cael ei ganfod.  Mae'n hi’n ras wedyn i dorri'r llystyfiant, gosod y polion, rhoi’r 6 neu 8 gwifren yn eu lle ac yna cysylltu'r panel solar cyn gynted ag sydd bosibl er mwyn aflonyddu gyn lleied ag sydd bosibl ar y pâr sy’n magu


Ffens drydan yn cael ei gosod yn ardal Hiraethog ac Ysbyty Ifan yn 2023.  ( Jake ( Jake Stephen, RSPB)
Ffens drydan yn cael ei gosod yn ardal Hiraethog ac Ysbyty Ifan yn 2023.  ( Jake ( Jake Stephen, RSPB)

Meddai Finlay Wilson o Brosiect Natur am Byth, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n arwain y gwaith er budd y gylfinir ar gyfer yr RSPB o fewn Ardal Gylfinir Bwysig 1 ar y Cefni “Mae gennym griw ffyddlon o wirfoddolwyr sydd wedi cael eu hyfforddi ac sy’n cynorthwyo i warchod y nythod, yn ogystal â chwilio a chlustfeinio am y gylfinirod drwy gydol y tymor.  Gyda’u cymorth nhw rydym yn gallu gosod y ffensys yn eu lle yn gyflym ac yn effeithiol sy’n arwain at gyfraddau uwch o gywion yn deor.”


Tan yn ddiweddar roedd ardal Mynydd Hiraethog ac Ysbyty Ifan (Ardaloedd Gylfinir Pwysig 2 a 3) yn rhan o brosiect LIFE yr RSPB ‘Curlew in Crisis’ a ariannwyd gan yr UE.  Yn ystod y cyfnod hwnnw datblygodd grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig berthynas dda gyda’r tirfeddianwyr a ffermwyr yr ardal, yn ogystal â chyfoeth o brofiad o ran arolygu gylfinirod a ffensio eu nythod.  Mae’r grŵp hwn sy’n awyddus i gefnogi’r gylfinir yn dal i weithio gyda’r gymuned i gyflawni’r gwaith pwysig hwn, gan roi’r cyfle gorau posibl i’r gylfinirod lwyddo yn 2025.


Mae Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur ac mae’n gweithio mewn tair Ardal Gylfinir Bwysig yng Nghymru (5, 9 a 12); Tirwedd Warchodedig Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy; Sir Drefaldwyn a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Mae gan bob un o'r ardaloedd hyn dimau o wirfoddolwyr brwdfrydig sydd yn monitro’r adar, codi  ffensys trydan ac hefyd yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw cŵn ar dennyn er mwyn gwarchod gylfinirod sy’n nythu’n lleol .   


Meddai Julieanne Quinlan o GWCT,  Rheolwr y Prosiect  “Rydym yn hynod o freintiedig o gael rhwydwaith o wirfoddolwyr mor ymroddedig i gefnogi cynifer o agweddau’r prosiect. Mae eu sgiliau, eu brwdfrydedd, a'r cysylltiadau maen nhw wedi'u llunio wrth wneud hyn yn enghraifft ardderchog o gadwraeth gydweithredol ar waith. Ni allwn ni anwybyddu eu cymorth ac allem ni ddim bod yn fwy diolchgar eu bod yn rhan o’r prosiect.”


Meddai un o’r  gwirfoddolwyr  ym Mryniau Clwyd “Fel tad prysur sy’n ceisio ymdopi â bywyd teuluol a gwaith llawrydd, yn anffodus does gen i ddim llawer o amser i wirfoddoli, ond rydw i wedi gallu gwneud ychydig bach, gan gyfuno hynny â’m taith feicio wythnosol neu'r daith gerdded achlysurol. Hyd yn oed pan nad ydw i wedi gallu dod o hyd i unrhyw ylfinir, mae wedi bod yn bleser pur, crwydro’r bryniau lleol a gweld cymaint o fywyd gwyllt arall.  Rwy’n teimlo o ddifrif fy mod yn dod i adnabod a charu fy milltir sgwâr fwy nag erioed a phan fyddaf yn gweld ac yn rhoi adroddiad am ylfinir, rwy’n cael gwefr wirioneddol, o wybod bod yr adar hardd hyn yn dewis dod yma a fy mod yn gwneud mymryn bach i helpu.”


Gylfinir yn bwydo ar fferm ym Mryniau Clwyd yn 2025. ( Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy)
Gylfinir yn bwydo ar fferm ym Mryniau Clwyd yn 2025. ( Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy)

Mae gan Warchodfa Natur Genedlaethol Fenns Whixall (GNG) (Ardal Gylfinir Bwysig 7) hanes hir o weithio gyda gwirfoddolwyr sydd wedi ymroi i helpu i adfer y gyforgors iseldir hon.


Mae topograffeg anodd y safle hwn wedi arwain at ddull ychydig yn wahanol o weithredu gyda ffensys trydan mawr, lled-barhaol yn cael eu codi cyn y tymor nythu er mwyn lleihau'r bygythiad gan famaliaid ysglyfaethus mewn ardaloedd o'r gors lle mae'r gylfinir ac adar hirgoes eraill yn debygol o nythu. Mae lleoliad y ffensys hyn wedi’u penderfynu gan ddata sy’n deillio o arolygon gylfinir gan wirfoddolwyr, ac mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o’u gosod a’u cynnal drwy gydol y tymor.


Meddai Steve Dobbin, Rheolwr y Warchodfa, “Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i'n gwirfoddolwyr. Mae llawer o’r hyn a wyddom am ein gylfinirod a rhywogaethau adar eraill ar y GNG yn deillio o waith ein gwirfoddolwyr a’u hamser yn cynnal arolygon flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae llawer hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o geisio hybu magu



Gylfinir o fewn y ffens drydan ar Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Fenns Whixall 2024.
Gylfinir o fewn y ffens drydan ar Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Fenns Whixall 2024.

Cynhaliodd Ymddiriedolaeth Cwm Elan (Ardal Gylfinir Bwysig 10) ddiwrnod hyfforddi llwyddiannus iawn ar gyfer darpar wirfoddolwyr yn gynharach eleni.   Meddai  Olivia Boston-Smith, Swyddog Gwrifoddolwyr  yr Ymddiriedolaeth “Mae’n ardderchog cael tîm ymroddedig o wirfoddolwyr monitro gylfinirod yn ein helpu eleni ac rydym yn gobeithio cael darlun llawer gwell o niferoedd gylfinirod a’u gweithgarwch yng Nghwm Elan. Roeddem mor ffodus o glywed a gweld pâr o’r gylfinirod yn ystod y sesiwn hyfforddi.”


Yng Ngwent mae gwirfoddolwyr ymroddedig, dan arweiniad Verity Picken wedi cymryd yr awenau yn y gwaith o fonitro gylfinirod sy'n magu ers nifer o flynyddoedd. Cafodd o leiaf 19 pâr o gylfinirod eu monitro yn 2024 ac am y tro cyntaf gosodwyd ffensys trydan o amgylch rhai o'r nythod. Cafodd y ffensys eu hariannu gan gynllun  Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru drwy CNC.  Maen nhw'n gobeithio cynyddu nifer y ffensys eleni. 


Mae Lee Ashcroft wedi bod yn cynnal arolwg o'r gylfinir ger ei gartref yng Ngwent ers dwy flynedd.  Mae’n canolbwyntio ei ymdrechion monitro ar un pâr penodol ac meddai “Os byddaf yn gallu cyfrannu at lwyddiant  ond un pâr o gylfinirod bydd hyn yn helpu’r boblogaeth gyfan i lwyddo a gobeithio y byddant yn dechrau cynyddu eto yn ystod y blynyddoedd nesaf.”   


Os hoffech chi gael y cyfle i wneud gwaith er budd y gylfinir mae manylion pellach am bob priosect i’w gael ar y dudalen Cyfleoedd i wirfoddoli er budd y gylfinir yn 2024

 
 
 

Comments


bottom of page