top of page
curlew chicks in hand(crop).jpg
Search

Fframwaith gweithredu’r dull o ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yng Nghymru

  • hello25754
  • Apr 10
  • 17 min read











Wedi ei baratoi gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Achub y Blaen’ er budd y Gylfinir

F1 Ebrill 2025.   I’w adolygu Ebrill 2027.


Mater

1.     Fel sy’n wir yn achos unrhyw boblogaeth sy’n dirywio’n barhaus, mae taer angen ymyriadau i adfer y rhywogaeth hon. Mae tri pheth y dylid cadw mewn cof wrth fynd ati i adfer poblogaethau: i) asesiad o opsiynau ac opsiynau amgen, ii) technegau ar gyfer archwilio canlyniadau gwahanol gamau gweithredu, a iii) sut i ymdrin â chanlyniadau anfwriadol trwy reoli addasol. Prawf hollbwysig yw pennu a yw’r boblogaeth darged yn ymateb i’r ymyriadau cadwraeth. Os nad yw hyn yn cael ei gyflawni, bydd angen ail werthuso cwmpas yr ymdrechion adfer.

 

2.     Oherwydd y cwymp difrifol a welir yn nifer y gylfinirod Ewrasiaidd Numenius arquata (“y gylfinir”) sy’n magu yn y DU ac Iwerddon, mae diddordeb cynyddol ac eang ym mhotensial dull ‘achub y blaen’ fel ymyriad cadwraeth i gynorthwyo’r broses o adfer y gylfinir. Mae ‘achub y blaen’ yn golygu rhyddhau adar sydd wedi’u deor a’u magu o wyau a gasglwyd o’r gwyllt yn ôl i’r gwyllt.

 

3.    O ystyried yr angen taer i fynd i’r afael â dirywiad y gylfinir, ynghyd â phwysau atebolrwydd ac adnoddau cyfyngedig, mae’n deg i ofyn a yw ‘achub y blaen’ yn ymyriad buddiol i gynorthwyo adferiad y gylfinir yng Nghymru. Oherwydd nad oes strategaeth ar gyfer gweithredu dull ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yn y DU, fe ofynnodd Gylfinir Cymru i un o’n partneriaid ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen bach i archwilio’r angen i ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yng Nghymru, a’r buddion posibl (Cyfarfod 16, 21 Mehefin 2023). Ffurfiwyd grŵp gorchwyl a gorffen[1] i drafod y mater, ac i benderfynu a oedd angen ymdrechion adfer o’r fath. Wedyn, pe bai gweithredu o’r fath yn briodol, bydd y grŵp yn mynd ati i ddatblygu fframwaith cychwynnol a fydd yn cael ei gyflwyno i Gylfinir Cymru i’w gymeradwyo. Mae’r papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw.

 

 

Cefndir

4.     Mae’r gylfinir yn rhywogaeth o bryder cadwraeth brys yn y DU (Stanbury ac eraill, 2021) a Chymru (Johnstone ac eraill, 2022). Oherwydd y cwymp sydyn a welwyd ar draws y DU, ac oherwydd pwysigrwydd byd-eang y boblogaeth o gylfinirod sy’n magu yn y DU, ystyrir mai’r gylfinir yw’r rhywogaeth o adar y dylid ei blaenoriaethu o ran cadwraeth yn y DU (Brown ac eraill, 2015), gan gynnwys yng Nghymru (Gylfinir Cymru, 2021). Rhagwelir y bydd y gylfinir ar fin diflannu fel rhywogaeth fridio hyfyw yng Nghymru erbyn 2033 (Taylor ac eraill, 2020).

 

5.     Mae maint poblogaeth unrhyw rywogaeth yn cael ei yrru gan ddau fetrig demograffig allweddol: magu llwyddiannus a goroesiad. O ran adar, mae yna tair prif elfen y gellir eu mesur i bennu pa mor lwyddiannus yw’r magu: (i) nifer yr wyau sy’n cael eu dodwy (maint y nythaid), (ii) nifer y cywion sy’n deor o’r wyau hynny (llwyddiant deor), a (iii) nifer y cywion sy’n ehedeg (llwyddiant ehedeg). Ynghyd â’r metrigau uchod, mae deall nifer yr adar newydd sy’n ymuno â phoblogaeth yn ffactor hollbwysig wrth fonitro iechyd unrhyw boblogaeth o adar mewn amgylchedd sy’n newid.

 

6.     Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir (“y Cynllun Adfer”) (Gylfinir Cymru 2021) yn nodi’r prif ffactorau sy’n ysgogi dirywiad y gylfinir yng Nghymru, a’r deilliannau y mae eu hangen i gyflawni adferiad cynaliadwy yn yr hirdymor, yn enwedig y sbardunau hynny sy’n ymwneud â rheoli tir. Ar hyn o bryd, y prif ffactor sy’n ysgogi dirywiad y gylfinir yn y DU a gorllewin Ewrop yw lefelau isel o magu llwyddiannus ymhlith poblogaethau oherwydd ysglyfaethu / colli wyau a chywion oherwydd meso-ysglyfaethwyr (Grant ac eraill, 1999; Brown ac eraill, 2015; Douglas ac eraill, 2021) a rheolaeth amaethyddol o laswelltiroedd (Douglas ac eraill, 2021).


Beth yw dull ‘achub y blaen’?

7.     Oherwydd pa mor ddifrifol yw’r dirywiad yn nifer yr adar hirgoes sy’n magu yn y DU (e.e. y rhostog gynffonddu (Limosa limosa) ac Iwerddon (e.e. y gylfinir), ac mewn mannau eraill (e.e. y pibydd llwybig Calidris pygmaea, yr hirgoes Himantopus novaezelandiae), mae diddordeb cynyddol eang ym mhotensial dull ‘achub y blaen’, a thechnegau magu adar tebyg, i gyfrannu at yr ymdrechion i adfer poblogaethau o adar hirgoes.

 

8.     Mae ‘achub y blaen’ yn golygu rhyddhau adar sydd wedi’u deor a’u magu o wyau a gasglwyd o’r gwyllt, yn ôl i’r gwyllt. Gellir defnyddio dull ‘achub y blaen’ i ddychwelyd adar a fagwyd mewn caethiwed (yn hytrach nag adar a fridiwyd mewn caethiwed) i’r boblogaeth y cymerwyd yr wyau ohoni, neu eu cymryd i leoliadau gwahanol i’w rhyddhau. Yr amcan yw cynyddu magu llwyddiannus trwy ddeor wyau, a magu adar, mewn sefyllfaoedd lle mae marwolaethau wyau a/neu gywion yn uchel yn y gwyllt. Mae hefyd yn dechneg arall a all helpu yw sicrhau poblogaeth fridio sydd, fel arall, mewn perygl o ddiflannu oherwydd henaint.

 

9.     Prif nod ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir, fel dull sy’n cyfrannu at y Cynllun Adfer, yw ‘ennill amser’ tra bod ymyriadau cadwraeth eraill, ar raddfa’r dirwedd, yn cael eu gweithredu neu’n cael eu hystyried. Mae’r papur hwn yn ymhelaethu ar y materion sy’n ymwneud â dylunio’r dull ‘achub y blaen’ a nodir yn Atodiad 1 o’r Cynllun Adfer.

 

 

 

Deddfwriaeth

10.  Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”) yn darparu’r fframwaith cyfreithiol yng Nghymru ar gyfer diogelu pob aderyn gwyllt a’u hwyau a’u nythod. Mae hefyd yn sefydlu’r fframwaith cyfreithiol y mae CNC yn dyroddi trwyddedau oddi tano i ladd, neu gymryd, adar gwyllt. Yng Nghymru, yn debyg i rannau eraill o’r DU, mae’n anghyfreithlon cymryd neu feddu ar wy, cyw neu oedolyn cylfinir heb drwydded briodol. Nid yw’r gylfinir wedi’i rhestru yn Atodlen 9 y Ddeddf, ac felly mae’n gyfreithlon rhyddhau cylfinirod yng Nghymru heb drwydded.


Datganiad sefyllfa CNC ar drawsleoliadau neu ailgyflwyno

11.  Yn yr un modd â chyrff cadwraeth statudol eraill, mae CNC wedi mabwysiadu canllawiau’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) ar gyfer ailgyflwyno a thrawsleoliadau cadwraeth eraill Guidelines for reintroductions and other conservation translocations – resource | IUCN fel y prif arf ar gyfer asesu cynigion ar gyfer ailgyflwyno rhywogaethau a thrawsleoli cadwraeth[2]. Diben y canllawiau hyn yw helpu i werthuso a yw trawsleoli yn briodol, ac i ddeall y risgiau cysylltiedig. Mae CNC yn cynghori unrhyw brosiect sy’n cynnig mesurau ailgyflwyno neu drawsleoli cadwraeth yng Nghymru i gymhwyso canllawiau’r IUCN, a sicrhau eu bod yn darparu digon o dystiolaeth i ganiatáu asesiad priodol o’u cais.


12.  Bydd asesiad CNC o unrhyw gynnig ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yn ystyried egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan gynnwys yr effaith ar gydnerthedd ecosystemau, a bydd penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth a ddarperir, ac ar yr egwyddorion o ragofal a chymesuredd.


Dull gweithredu

Cwmpas

13.  Bu’r grŵp gorchwyl a gorffen yn ystyried y canlynol:

-        Buddion ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir o ran cadwraeth mewn perthynas â phoblogaethau sy’n lleihau.

-        Y risgiau a goblygiadau sy’n gysylltiedig ag ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir.

-        Bylchau tystiolaeth.

-        Yr angen am fframwaith ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir ag egwyddorion clir, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, i lywio holl brosiectau ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir arfaethedig yng Nghymru.

 

14.  Nid oedd y grŵp gorchwyl a gorffen yn ystyried y canlynol:

·       Magu gylfinirod aeddfed mewn caethiwed gyda’r nod o ryddhau eu hepil i’r gwyllt.

·       Y cyd-destun o bwysau a bygythiadau ehangach ar gylfinirod sy’n magu, er y dylai mabwysiadu unrhyw fframwaith roi cyfrif am y rhain fel y nodir yn y Cynllun Adfer.

·       Ymgynghori cynhwysfawr y tu allan i Gymru, er y disgwylir y bydd syniadau ac allbynnau’n cael eu rhannu â phartneriaethau adfer y gylfinir eraill yn y DU, ac awdurdodau trwyddedu megis Natural England, NatureScot a DAERA.

 

15.  Derbyniwyd y grŵp gorchwyl a gorffen bod gan y dull ‘achub y blaen’ risg uchel o ran niweidio enw da a bod hefyd angen y canlynol arno: cefnogaeth gan gymunedau gwledig, proses drwyadl o wneud penderfyniadau, bod yn amddiffynadwy. Ar ben hynny, mae angen cynllunio manwl a set o sgiliau arbenigol ac, yn hollbwysig, cyllid aml-flwyddyn i roi dull ‘achub y blaen’ ar waith fel ymyriad cadwraeth, ac i fonitro pa mor effeithiol ydyw. O ystyried y cyd-destun hwn, aeth y grŵp gorchwyl a gorffen i’r afael â dau gwestiwn sylfaenol:

C1             A fyddai ‘achub y blaen’ yn dod â budd o ran cadwraeth er mwyn cynorthwyo’r broses o adfer gylfinirod yng Nghymru?

C2             Os yw’r ateb i C1 yn gadarnhaol, a oes angen fframwaith ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yng Nghymru?

 

A fyddai ‘achub y blaen’ yn dod â budd o ran cadwraeth er mwyn cynorthwyo’r broses o adfer gylfinirod yng Nghymru?


16.  Mewn ymateb i C1, roedd cytundeb cyffredinol ynghylch y budd posibl o ran cadwraeth, ac yma roedd y rhesymeg ganlynol sy’n gysylltiedig â statws poblogaeth ac adferiad y rhywogaeth yn sail i’r penderfyniad hwnnw:

 

Statws poblogaeth

  • Yn yr un modd â llawer o wledydd eraill y DU, ac mewn mannau eraill yn Ewrop, mae nifer y gylfinirod sy’n magu yng Nghymru yn dirywio’n sylweddol, o ran eu gwasgariad ac o ran eu niferoedd, o ganlyniad i gyfuniad o dri phwysau sylweddol: colli cynefinoedd, rheoli cynefinoedd mewn modd anffafriol, a cholli nythod/cywion. Ar hyn o bryd, er y gall ymyriadau adfer yng Nghymru fod yn effeithiol o ran lleihau nifer yr wyau sy’n cael eu colli, nid yw’r rhain eto wedi arwain at lwyddiant o ran sicrhau nifer digonol o adar sy’n ehedeg i gynnal neu gynyddu’r boblogaeth.

  • Rhagwelir y bydd y gylfinir ar fin diflannu fel rhywogaeth fridio hyfyw yng Nghymru erbyn 2033. Oherwydd pa mor bwysig yw’r argyfwng hwn, ystyrir bellach mai’r gylfinir

    yw’r rhywogaeth o adar y dylid ei blaenoriaethu pennaf o ran cadwraeth yng Nghymru.


Derbynnir nad yw’r ddau bwynt bwled uchod yn rhoi tystiolaeth y gallai’r dull ‘achub y blaen’ fod o fudd i’r gylfinir, ond maent yn amlygu’r angen dybryd am ddulliau newydd y gellir eu hystyried yn fuddiol.


Adfer y rhywogaeth

  • Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu, ac mae ‘achub y blaen’ yn cael ei amlygu fel cam gweithredu posibl i’w ystyried yn y fframwaith hwnnw (Cynllun Adfer | Gylfinir Cymru).

  • Dylai’r defnydd o ‘achub y blaen’ fod mewn ymateb i angen y boblogaeth, ei lleoliad, a pha mor fregus ydyw (e.e. ymyl ei gwasgariad).

  • Byddai mentrau arloesol yng Nghymru yn hwyluso ac yn cyfrannu data / deilliannau sy’n cael eu llywio gan dystiolaeth i astudiaethau peilot blaengar eraill y DU er mwyn gwella ein dealltwriaeth, ac i ddarparu mwy o drylwyredd gwyddonol i ddadansoddiadau ystadegol.

  • Mae dull ‘achub y blaen’ yn fodd i ‘ennill amser’ ar gyfer poblogaethau bach, gan eu cadw’n hyfyw hyd nes y daw ymyriadau eraill ar raddfa’r dirwedd i rym, ar yr amod bod ymrwymiad ac adnoddau i sicrhau’r ymyriadau hirdymor hynny.


Yn ystod ein hasesiad i ateb C1, fe wnaethom ni ganfod ansicrwydd gwyddonol uchel mewn ardaloedd sy’n gysylltiedig â’r dull ‘achub y blaen’, gan ei bod yn dechneg gymharol newydd. Er enghraifft, nid oes unrhyw astudiaethau gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid o’r canlynol:

-        cyfraddau goroesi gylfinirod a fu’n destun ‘achub y blaen’ yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn o gymharu â phoblogaethau gwyllt a allai ddangos a yw adar a ryddheir yr un mor wydn, neu’n fwy wydn, i bwysau a bygythiadau allweddol

-        cyfradd dychwelyd gylfiniroed a fu’n destun ‘achub y blaen’ i’r boblogaeth fridio sy’n eu derbyn (‘y boblogaeth sy’n derbyn’)

-        effeithiau’r dull ar amrywiaeth enetig ar lefel y boblogaeth, lle gall alelau niweidiol ledaenu yn y boblogaeth fridio sy’n derbyn

-        cyfradd y gylfinirod a fu’n destun ‘achub y blaen’ sy’n mynd ymlaen i fagu cywion yn llwyddiannus, o’i gymharu â gylfinirod a gafodd eu magu yn y gwyllt

-        y gymhareb rhyw ymhlith adar a fu’n destun ‘achub y blaen’ a ddychwelwyd: pu’n a yw’r gymhareb yn uwch, yn gyfartal neu’n is o gymharu â chywion gwyllt

-        yr amgylchiadau (h.y. maint a lleoliad y gollyngiadau) lle mae gylfinirod a fu’n destun ‘achub y blaen’ yn arwain at ymateb cadarnhaol ar lefel y boblogaeth


Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gellir mynd i’r afael â rhai o’r bylchau tystiolaeth hyn yn yr ychydig flynyddoedd nesaf gan fod prosiectau ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yn Lloegr bellach yn casglu data digon eang i ddechrau dadansoddi ystadegau goroesi. Ar ben hynny, mae Ewing ac eraill (yn y wasg) wedi adolygu prosiectau ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yn Ewrop, a disgwylir y bydd yr astudiaeth hon yn cael ei chyhoeddi’n fuan.

 

17.  Wrth asesu C1, derbyniwyd bod y dull ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yn ymyriad cymharol gostus a risg uchel, ac nid yw llawer o sefydliadau cadwraeth yn gyfarwydd â’r dull. Daethom i’r casgliad bod yr ymyriad hwn yn gofyn am sgiliau arbenigol, ei fod yn gymhleth i’w weithredu, ac mai dim ond fel rhan o raglen gadwraeth ehangach y dylid ei wneud.

 

18.  Roedd cymryd wyau neu gywion gylfinirod o boblogaethau gwyllt i ffurfio rhaglen fridio mewn caethiwed, gyda’r nod o ryddhau eu hepil i’r gwyllt, y tu allan i gwmpas y papur hwn. Fodd bynnag, roedd cytuno nad yw’r ymyriad hwn yn rhan o’r dull ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir.

 

19.  Yn hollbwysig, wrth fynd i’r afael ag C1, roedd cytuno, er bod bylchau sylweddol yn y dystiolaeth, o ystyried yr angen taer i fynd i’r afael â’r dirywiad yn nifer y gylfinirod, na ddylid gohirio unrhyw ymyriadau cadwraeth synhwyrol a chraff gan nad oes digon o dystiolaeth wyddonol sydd wedi’i hadolygu gan gymheiriaid i’w cefnogi. Ystyrir bod hyn yn debyg i reoli ysglyfaethwyr, lle nad yw’r raddfa na’r ymdrech y mae eu hangen i reoli meso-ysglyfaethwyr, a gweld effaith ar lefel y boblogaeth, yn gwbl hysbys, ond mae’n dal i gael ei gynnwys fel un o’r mesurau i helpu i adfer poblogaethau o’r gylfinir. Yn y ddau achos, dylai prosiectau gael tystiolaeth i asesu a yw’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fridio llwyddiannus.

 

20.  Oherwydd prinder tystiolaeth, mae’n bwysig bod unrhyw gynnig i ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yn cael ei gynllunio a’i weithredu’n drylwyr, a’i fonitro’n ofalus.

 

A oes angen fframwaith ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yng Nghymru?

21.  Fe wnaethom ni benderfynu mai prawf allweddol unrhyw ymyriad cadwraeth, neu gyfres o ymyriadau, yw gwella statws cadwraeth y rhywogaeth darged, ac felly rhaid i arfarnu a chynllunio fod yn sail i hyn. Yn Lloegr, mae yna bum prosiect ‘achub y blaen’ sy’n cwmpasu saith safle rhyddhau, ac ar ynys Iwerddon, mae Sanghera ac eraill (yn cael ei baratoi) wedi edrych ar gyfiawnhad ac ymarferoldeb rhoi’r dull hwn ar waith i gynorthwyo adferiad. Yng Nghymru, hyd yn hyn, nid oes unrhyw drafodaeth, asesiad na phenderfyniad o’r fath wedi’u cynnal ar gymhwyso dull ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir. Cytunodd y grŵp gorchwyl a gorffen y bydd fframwaith realistig a deallus yn llywio ac yn galluogi’r dull yng Nghymru mewn modd cytbwys drwy wneud y canlynol:

 

  • Darparu dull cyson o gynllunio a gweithredu mentrau ‘achub y blaen’ yn erbyn set o egwyddorion clir (e.e. trwyddedu, monitro, rhannu gwybodaeth, cyfathrebu).

 

  • Hwyluso dull gweithredu strwythuredig a disgybledig sydd wedi’i gynllunio i lywio penderfyniadau trwyddedu CNC ar gyfer prosiectau ‘achub y blaen’ arfaethedig yng Nghymru.

 

  • Mynegi gofynion y dull ‘achub y blaen’ i wella statws cadwraeth y gylfinir (e.e. cynllun monitro, dangosyddion perfformiad) gyda’r adnoddau i wneud hynny (e.e. cyllid aml-flynyddol, gwerthuso a rheoli addasol).

 

·       Cysylltu, cefnogi a thanategu canllawiau trawsleoli cadwraeth yr IUCN.

 

Egwyddorion i lywio’r penderfyniad ynghylch a yw cynnig ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yn briodol yng Nghymru

22.  Bydd y fframwaith yn cael ei lywio gan set o 12 egwyddor, a fydd yn cael eu cymhwyso wrth benderfynu ym mha cyd-destun y mae prosiect ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yn briodol. Oni bai fod yr holl egwyddorion hyn yn cael eu bodloni, byddai’n amhriodol gofyn am drwydded i gymryd wyau. Os oes cryn ansicrwydd ynghylch lefel y risg, ni ddylai cynnig ‘achub y blaen’ fynd rhagddo. Bydd cymhwyso’r egwyddorion hyn wrth benderfynu pa mor briodol yw’r cynnig ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yn gofyn am ffurfio barn synhwyrol yn seiliedig ar y dystiolaeth a chraffu sydd ar gael.

 

Egwyddor 1: Mae’r gyfraith yn diogelu’r gylfinir, a dim ond os oes angen amlwg a dilys i ddefnyddio’r dull ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir mewn lleoliad daearyddol penodol o dan drwydded y gellir caniatáu rhanddirymiadau o’r ddeddfwriaeth honno.


Egwyddor 2: Dylai unrhyw wyau sy’n cael eu casglu (yn enwedig os ydynt yn deillio o gylfinirod sy’n magu y tu allan i Gymru) fod â siawns isel iawn, neu ddim siawns o gwbl, o arwain at gywion sy’n ehedeg yn y gwyllt.


Egwyddor 3: Gellir disgwyl, yn rhesymol, y bydd unrhyw gylfinirod a fu’n destun y dull ‘achub y blaen’ sy’n cael eu rhyddhau i’r gwyllt yn cyfrannu at adferiad yng nghyd-destun y Cynllun Adfer. Hyd yn oed os bydd Egwyddor 1 yn cael ei bodloni, dylid dim ond ystyried unrhyw gynnig ‘achub y blaen’ pan fo tystiolaeth resymol yn awgrymu y bydd y dull yn cyfrannu at adferiad gylfinirod, naill ai mewn lleoliad daearyddol neu yng Nghymru, neu y ddau. Mae’n rhaid i fuddion arfaethedig y dull fynd y tu hwnt i gadwraeth adar unigol yn unig, ac mae’n rhaid i’r buddion fod yn fesuradwy ar lefel y boblogaeth neu ar lefel yr ecosystem. Er enghraifft, gellir rhoi blaenoriaeth i safleoedd sydd â’r potensial i’r boblogaeth magu ehangu a chysylltu ag ardaloedd eraill a feddiannir, lle mae mesurau rheoli cynefinoedd ac ysglyfaethwyr priodol yn cael eu rhoi ar waith.


Wrth i dystiolaeth newydd wedi’i hadolygu gan gymheiriaid ddod i’r amlwg, efallai y bydd angen diweddaru/adolygu’r paramedrau y cyfeirir atynt uchod.


Egwyddor 4: Bydd y cynnig yn cyfrannu at gydweithredu a synergeddau ehangach i wella’r broses o drosglwyddo gwybodaeth dechnegol a’r sylfaen dystiolaeth wyddonol. Er mwyn cryfhau’r broses o feithrin gallu, a gwaith datblygu a chydweithredu gwyddonol, mae’n hollbwysig bod mentrau ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir eraill yn y DU ac yn Ewrop yn cydweithio ac yn cydweithredu mwy, a bod gwybodaeth a data hefyd yn cael eu trosglwyddo rhwng y mentrau hyn. Mae’r farn hon yn gymesur â’r uchelgais i ddangos sut mae’r dull ‘achub y blaen’ yn helpu adferiad y gylfinir.


Egwyddor 5: Ceisiwyd dulliau eraill o ddatrys magu annigonol o fewn ardal, i’r graddau y mae hynny’n ymarferol bosibl, ac nid yw’r dulliau hynny wedi cynyddu cyfraddau magu i gynnal o leiaf 0.6 o gywion fesul pâr magu y flwyddyn (dyma lefel y llwyddiant magu cyffredinol yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i atal cwymp pellach yn y boblogaeth, gweler Gylfinir Cymru 2021). Os nad yw hyn yn wir, neu os bydd angen ymdrech barhaus, rhaid gweithredu’n barhaus i ddiwallu anghenion ecolegol gylfinirod sy’n magu (h.y. digon o gynefin addas, rheoli cynefinoedd, a rheoli ysglyfaethwyr), a hynny’n barhaus ar y cyd â’r prosiect ‘achub y blaen’. Dylai’r cynnig ddangos sut y bydd yr ymyriadau eraill hyn yn parhau i gael eu hariannu i weithio ar raddfa eang, ochr yn ochr â mentrau ‘achub y blaen’ yn yr ardal lle mae’r gylfinirod yn cael eu rhyddhau, sy’n gymesur â’r nod o ‘ennill amser’ er mwyn gweld buddion yr ymyriadau hynny yn cael eu gwireddu.


Egwyddor 6: Dylai pob menter ‘achub y blaen’ ddilyn canllawiau’r IUCN ar gyfer ailgyflwyno a thrawsleoliadau cadwraeth eraill. Mae canllawiau’r IUCN wedi’u cynllunio i fod yn berthnasol i unrhyw drawsleoliad cadwraeth, ac maent wedi’u seilio ar egwyddor yn hytrach nag enghraifft. Mae’r canllawiau yn ymateb i’r cyfnod presennol o newid ecolegol byd-eang cynyddol, ac yn cyflwyno proses resymegol o’r cysyniad cychwynnol i’r dyluniad, dichonoldeb, asesu risg, gwneud penderfyniadau, gweithredu, monitro, addasu, gwerthuso a llywodraethu. Mae CNC wedi mabwysiadu canllawiau’r IUCN wrth asesu unrhyw gynnig trawsleoli rhywogaethau (gweler paragraff 11 uchod).


Egwyddor 7: Gellir dangos bod cyllid yn sicr ar gael, ar gyfer mentrau ‘achub y blaen’ a phecyn cyfochrog o ymyriadau eraill. Mae unrhyw gynnig yn gofyn dangos  adnoddau ariannol digonol a hygyrch (gan gynnwys ffynonellau cyllid domestig, rhyngwladol, cyhoeddus a phreifat), gyda chynllun cyllid wedi’i gostio i gwmpasu o leiaf bum mlynedd (gan nad yw llawer o gylfinirod yn magu tan eu pedwaredd blwyddyn, byddai hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd o gofnodi magu unrhyw adar sy’n destun y dull hwn). Bydd cynllun gwaith wedi’i gostio yn cynnwys cynllun wrth gefn, a chynllun monitro ar gyfer y cyfnod o bum mlynedd ar ôl rhyddhau’r adar – gweler Egwyddor 8.


Egwyddor 8: Sicrhau bod rhaglen fonitro benodol yn cael ei chynnwys mewn unrhyw gynnig. Bydd hyn yn cynnwys marcio/tagio i sicrhau y gellir pennu symudiadau’r adar sy’n cael eu rhyddhau. Bydd dull o’r fath yn cefnogi Egwyddor 4. Mae’n hanfodol bod canlyniadau’n cael eu monitro fel y gellir dysgu a rhannu gwersi, a gwneud addasiadau. Dylid gwneud y canlynol o leiaf: i) monitro maint a chyfraddau magu llwyddiannus y boblogaeth sy’n derbyn (a’r boblogaeth y daethpwyd yr wyau ohoni pan fo trawsleoli rhwng safleoedd) er mwyn deall yr effaith y mae ‘achub y blaen’ yn ei chael; ii) rhoi modrwy fetel, a modrwy liw, ar adar sy’n cael eu rhyddhau y mae modd eu darllen yn y maes (modrwyau lliw, baneri ar gyfer y coesau sydd wedi’u safoni i ddilyn y system farcio leol neu system farcio genedlaethol), a lle bo’n bosibl, defnyddio tagiau GPS; iii) monitro’r boblogaeth sy’n derbyn yn ofalus yn ystod y tymhorau magu dilynol er mwyn pennu cyfraddau goroesi, a derbyn, adar sy’n destun ‘achub y blaen’, a’u llwyddiant magu dilynol o’u cymharu ag adar sy’n magu yn y gwyllt, ac, o ganlyniad i hyn, unrhyw newidiadau ym maint y boblogaeth; iv) cadw cofnodion manwl o’r adar yn ystod y broses fagu, gan gynnwys y dyddiad deor, rhyw, cyflwr ac iechyd, fel y gellir deall y cysylltiadau rhwng magu a ffitrwydd maes o law. Yn ogystal, bydd yn hanfodol gwneud y canlynol:


-        dilyn adar yn agos yn y cyfnod yn union ar ôl iddynt gael eu rhyddhau er mwyn asesu a ydynt yn ymddwyn mewn ffordd briodol, ac i nodi unrhyw farwolaethau cynnar

-        olrhain is-set o’r adar gan ddefnyddio GPS fel y gellir monitro a ydynt yn goroesi, a’u symudiadau, yn uniongyrchol, gan ddysgu am ymddygiad y boblogaeth honno

-        monitro llwyddiant magu’r adar sy’n destun ‘achub y blaen’ o gymharu â llwyddiant magu adar gwyllt, er mwyn deall eu ffitrwydd cymharol ar gyfer bywyd yn y gwyllt


Egwyddor 9: Rhaid i unrhyw gynnig ddangos bod gan yr unigolion sy’n ymwneud â’r prosiect y sgiliau a’r profiad i reoli’r risg o glefydau a bioddiogelwch, ac i gyrraedd safonau iechyd a lles sy’n cynyddu nifer y gylfinirod sy’n cael eu rhyddhau sydd mewn cyflwr da.


Egwyddor 10: Gellir cynnig ac ystyried prosiect ‘achub y blaen’ yng Nghymru pan fo wyau o adar wedi’u cymryd o dan drwydded yn Lloegr neu’r Alban, ac wedi hynny wedi’u deor, eu magu a’u rhyddhau yng Nghymru, ar yr amod nad yw Egwyddor 2 yn cael ei thorri.


Egwyddor 11: Cynnwys cynllun ymgysylltu â’r gymuned a thirfeddianwyr i annog, a chryfhau’r, capasiti ar gyfer cyfranogiad cymdeithasol drwy addysg ac ymwybyddiaeth o’r mesurau hanfodol y mae eu hangen i ddiogelu gylfinirod sy’n magu yng Nghymru. Os yw cynnig yn ymwneud â thrawsleoli, dylai cynllun cyfathrebu gwmpasu’r ardaloedd hynny o ble mae’r wyau’n hanu, a’r ardaloedd lle cânt eu rhyddhau.


Egwyddor 12: Bydd strategaeth ymadael yn rhan annatod o unrhyw gynnig ‘achub y blaen’. Mae’n bosibl y bydd modd amddiffyn y penderfyniad i ddod â phrosiect i ben os yw’r cynllun yn cynnwys dangosyddion neu fesurau llwyddiant a chyfyngiadau annioddefol. I gefnogi egwyddorion 7 ac 8, bydd cynllun gwaith wedi’i gostio yn cynnwys cynllun wrth gefn, a

chynllun monitro am gyfnod o bum mlynedd, o leiaf, ar ôl rhyddhau’r garfan olaf o adar.



23.  I grynhoi, mae’r fframwaith hwn yn nodi’r dull gweithredu, fel y’i hystyriwyd gan Gylfinir Cymru, i helpu i ddatblygu cynigion ‘achub y blaen’ er budd y gylfinir yng Nghymru, ac fel ffordd o hwyluso’r canlyniad gorau ar gyfer adferiad gylfinirod yng Nghymru.

 

24.  Bydd y fframwaith hwn yn llywio’r adolygiad canol tymor o Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir, lansiad Cynllun Gweithredu’r DU ar gyfer Adfer y Gylfinir, a’r adolygiad o Gynllun Gweithredu Rhywogaeth Sengl Rhyngwladol ar gyfer Gwarchod y Gylfinir Ewrasiaidd y Gytundeb ar Warchod Adar Dŵr Mudol Affricanaidd-Ewrasiaidd (AEWA). Bydd y fframwaith hwn hefyd yn cael ei adolygu’n barhaus, fel y gall canlyniadau’r prosiectau gyfrannu at y gwybodaeth a rennir a llenwi bylchau tystiolaeth.

 

Papur wedi ei fabwysiadu gan Gylfinir Cymru ar y 5ed o Fawrth 2025.


BASC, Bannau Brycheiniog National Park, Clwydian Range Protected Landscape, Cofnod, Countryside Alliance, Curlew Country, Elan Valley Trust, FUW, GWCT, Gwent Ornithological Society, National Gamekeepers Association, NFU, National Trust, Natural Resources Wales, Parc Cenedlaethol Eryri, RSPB Cymru, Wildlife Trusts Wales, Welsh Ornithological Society

 

 

Llyfryddiaeth

Brown, D.J. ac eraill 2015. The Eurasian Curlew – the most pressing bird conservation priority in the UK? British Birds 108: 660–668.

Grant, M. C., Orsman, C., Easton, J., Lodge, C., Smith, M., Thompson, G., Rodwell, S. a Moore, N. 1999. Breeding success and causes of breeding failure of Curlew Numenius arquata in Northern Ireland. J. App. Ecol. 36:59-74.

Gylfinir Cymru 2021. Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir. www.curlewwales.org

Douglas, D.J.T. ac eraill 2021. Recovering the Eurasian Curlew in the UK and Ireland: progress since 2015 and looking ahead. British Birds 114, 341-350.

IUCN/SSC. 2013. Guidelines for Reintroductions and Other Conservation Translocations.Fersiwn 1.0. Gland, y Swistir.

Johnstone, I.G., Hughes, J., Balmer, D., Brenchley, A., Facey, R.J., Lindley, P., Noble, D.G. a Taylor, R.C. 2022. Birds of Conservation Concern Wales 4: the population status of birds in Wales. Milvus 2:1 (ar-lein).

Sanghera, S., Sheard, E., Lee, R., McDevitt, A-M, Gilbert, G a Kelly, S. Yn cael ei baratoi. Justification and Feasibility Assessment for a reinforcement of the all-Ireland breeding population of Curlew Numenius arquata by head-starting. A report to LIFE Curlews in Crisis UK Project (LIFE19NAT/UK/0000844).

Stanbury, A.J., Eaton, M.A., Aebischer, N.J., Balmer, D., Brown, A.F., Douse, A., Lindley, P., McCulloch, N., Noble, D.G. ac Win, I. 2021. The Status of our bird populations: the fifth Birds of Conservation Concern in the United Kingdom, Channel Islands and Isle of Man and second IUCN assessment of extinction risk for Great Britain. British Birds 114: 723-7

Taylor, R., C., Bowgen, K., Burton, N, H., K., a Franks, S, E. 2020. Understanding Welsh breeding Curlew: from local landscape movements through to population estimations and predictions.  Adroddiad Tystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (Rhif 485).


[1] Grŵp Gorchwyl a Gorffen ‘Achub y Blaen’ er budd y Gylfinir – Bethan Beech (CNC), Julian Hughes (RSPB Cymru), Patrick Lindley (CNC), Amanda Perkins (Curlew Country) a Rachel Taylor (Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (Cymru)).

[2] Pan ydym yn defnyddio’r term ‘trawsleoliadau cadwraeth’, rydym yn cymhwyso’r diffiniad o ganllawiau’r IUCN ar gyfer ailgyflwyno a thrawsleoliadau cadwraeth eraill, h.y. “Trawsleoli cadwraeth yw symud organebau’n fwriadol o un safle er mwyn eu rhyddhau i safle arall. Rhaid i hyn gael ei wneud â’r bwriad o gyflwyno buddion cadwraeth mesuradwy ar lefelau poblogaethau, rhywogaethau neu’r ecosystem, ac nid rhoi budd i unigolion sydd wedi’u trawsleoli yn unig.

 
 
 

Comments


bottom of page