15 Ionawr 2025.
6.30pm Canolfan y Plase,
Y Ganolfan Dreftadaeth, y Bala.
Première Cymru o'r ffilm
Stunned by Silence.
Mae “Stunned by Silence”, sy’n gynhyrchiad dwyieithog gan Greengage Films, yn ffilm ymgyrchu sy'n rhoi sylw i’r Gylfinir, rhywogaeth sy'n prinhau’n arw.
Mae Malka Holmes wedi bod yn allweddol yn y broses o greu’r ffilm: “Llafur cariad fu’r ffilm hon, fe ddaeth o fy mhrofiad personol yn tyfu i fyny mewn bwthyn bugail anghysbell, Cwm Hesgyn, o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Cwm Hesgyn wedi'i leoli mewn dyffryn anghysbell ger y Bala ac wedi'i amgylchynu gan fawndir.
Fel plentyn roeddwn i’n edrych ymlaen bob gwanwyn at pan fyddai’r gylfinir yn dychwelyd i fagu ger y bwthyn. Yna tua ugain mlynedd yn ôl, diflannodd y gylfinir o'r tiroedd magu hyn a dydw i ddim wedi’i weld na’i glywed yno byth ers hynny.
Roedd fy nhad Clyde Holmes yn arlunydd ac yn fardd amgylcheddol. Bu'n byw i fyny yng Nghwm Hesgyn am dros ddeng mlynedd ar hugain a deilliodd y gerdd ‘Curlew’s Nest’ o nifer o gyfarfyddiadau â’r aderyn hardd hwn. Mae'r gerdd yn ymddangos yn y ffilm, ac un o linellau'r gerdd yw ‘stunned by silence’, a roddodd i’r ffilm ei theitl. Roeddwn i'n meddwl bod hwn yn deitl perthnasol gan fod y rhostir mor dawel heb bresenoldeb y gylfinir.
Ar hyd y daith rydw i wedi cyfarfod â phobl angerddol iawn sy'n ymroddedig i warchod y gylfinir, i gyd yn ymdrin â'r pwnc o onglau gwahanol iawn.”
Mae'r ffilm yn cynnwys trafodaethau gyda Mary Colwell o Curlew Action, a'r canwr-gyfansoddwr David Gray yn ogystal ag unigolion sy'n gweithio i achub y gylfinir yng ngogledd-orllewin Cymru gan gynnwys y rhai sydd yn y gymuned ffermio.
Ar 15 Ionawr, bydd Iolo Williams yn cyflwyno'r ffilm.
Os hoffech fynychu bydd yn rhad ac am ddim
Curlews’ Nest
Must be near the farmhouse
For weeks now
he gasps with wheezy scream.
Above my head, his curved bill
An ominous, sabred silhouette.
Incensed wing-flames
An aerial attack
Sputtering his aggression
In machine-gun rhythms
When I step out
of his circled territory
His sound magically ceases
I am stunned by silence-
freed from his anxiety. (Clyde Holmes)
Mae Curlew Action yn elusen a sefydlwyd gan Mary Colwell ac eraill i gefnogi’r gylfinir ym Mhrydain
Gweithdy Deor Artiffisial Ewropeaidd Ar-lein
6-7 Chwefror 2025
Digwyddiad ar-lein dros ddau ddiwrnod i drafod rôl deor artiffisial (headstarting) ledled Ewrop. Mae ymweliadau Curlew Action â phrosiectau Gylfinir Ewropeaidd wedi amlygu pwysigrwydd deor artiffisial i gefnogi poblogaethau sy’n prinhau, ac fe wnaethant hefyd ddarganfod yr amrywiaeth o wahanol ddulliau o ddeor artiffisial. Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd arweinwyr ac arbenigwyr prosiectau deor artiffisial yn Ewrop i rannu gwybodaeth, profiadau ac arferion gorau.
I gael tocynnau, ewch i wefan Curlew Action.
14 Mawrth 2025 – 10yb
Castell y Waun
Croesawu'r Gylfinir yn ôl
Nid yw’n hanfodol cadw lle ond byddwch yn ymwybodol bod tâl mynediad i ymweld â’r castell.
Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn bartner i Brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru, gan weithio ochr yn ochr â Pharc Cenedlaethol Bannau Bryncheiniog a GWCT yn Ardaloedd Gylfinir Pwysig 5, 12 a 9 yn y drefn honno. Mae’r prosiect hwn a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ac a ariennir drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol ar gyfer gwarchod ac adfer y gylfinir.
Samantha Kenyon yw Swyddog y Gylfinir a Phobl sy’n gweithio gydag ysgolion lleol, artistiaid, storïwr a cherddor i greu gorymdaith ddathlu i blant i groesawu’r gylfinir yn ôl y gwanwyn nesaf.
“Fel rhan o’r paratoadau cyn y digwyddiad a gynhelir ar 14 Mawrth 2025 yng Nghastell y Waun yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd plant ysgol lleol yn helpu i greu pypedau o’r gylfinir, chwedl newydd i’r gylfinir a chân i’w chanu fel rhan o’r orymdaith.
Mae’r prosiect creadigol hwn yn gobeithio annog balchder yn y diwylliant a’r iaith sy’n ymwneud â’r adar gwerthfawr hyn. Ac i gydnabod pwysigrwydd ein cymunedau gwledig o ran darparu ar gyfer a diogelu gylfinirod ar eu tiroedd magu ac o’u cwmpas.
Bydd yr orymdaith o amgylch tiroedd y castell yn cael ei chynnal wrth i ni ddechrau gweld a chlywed yr adar yn dychwelyd i’w ffermdir a’u gweunydd ledled Cymru.”
Bydd mwy o fanylion am sut i fynychu y digwyddiad ar gael cyn hir. Os am wybod mwy cysylltwch gyda Sam Kenyon ar samantha.kenyon@denbighshire.gov.uk
Comments