Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r gylfinir yn aderyn eiconig y cyfeirir ato'n aml ar draws diwinyddiaeth, diwylliant a threftadaeth Cymru, ac mae cymunedau gwledig ledled ucheldir ac iseldir Cymru yn aml yn ystyried ei alwad fyrlymus a swynol nodedig fel cyhoeddiad bod y gwanwyn ar y ffordd. Fel plentyn, roedd y gylfinir i’w weld yn rheolaidd ar ein fferm – rhywbeth yr oeddem yn ei gymryd yn ganiataol – ond mae'r herodraeth hon o'r gwanwyn bellach yn dirywio'n sylweddol gyda'r boblogaeth yn gostwng 6% bob blwyddyn. Erbyn hyn, mae'n cael ei ystyried yn flaenoriaeth cadwraeth fwyaf dybryd Cymru o ran adar. Os na weithredwn yn awr i wyrdroi'r dirywiad hwn, rhagwelir y bydd y gylfinir ar fin diflannu fel rhywogaeth fridio yng Nghymru yn y degawd nesaf. Mae angen gweithredu ar frys i achub y gylfinirod sy’n weddill yng Nghymru a’u galluogi i adeiladu poblogaeth gynaliadwy fel bod ein plant a’n hwyrion mor gyfarwydd â’r adar godidog hyn ag yr oeddem ar un adeg.
Mae gylfinirod yn un o'r heriau cadwraeth eiconig hynny, ac yn un sy'n ennyn diddordeb pobl ledled Cymru. Un nodwedd drawiadol o’r byd cadwraeth yw ei ddibyniaeth enfawr ar wirfoddolwyr a ‘gwyddoniaeth dinasyddion’, a pho fwyaf o hyn y gallwn ei annog, y gorau yw ein siawns o wneud gwahaniaeth. Efallai mai'r arwydd pwysicaf a chalonogol i gylfinirod yng Nghymru yw nifer y bobl sy'n cydnabod eu cyflwr, a'r ffordd y mae gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr yn gweithio gyda'i gilydd i warchod y rhywogaeth a'i chynefinoedd.
Rwy’n arbennig o falch, ers y gynhadledd lwyddiannus ar gylfinirod yng Nghymru, a drefnwyd ar y cyd â phencampwr gylfinirod y DU – Mary Colwell ac a gynhaliwyd yn Llanfair-ym-Muallt ym mis Ionawr 2018, fod arbenigedd Cymru, trwy bartneriaeth Gylfinir Cymru, bellach yn helpu i asesu a phennu’r blaenoriaethau a’r cyfeiriad strategol ar gyfer adfer y gylfinir yng Nghymru. Yn sicr, ni chredaf fod unrhyw fesur neu gam gweithredu neu sefydliad unigol yn mynd i lwyddo ar ei ben ei hun wrth atal dirywiad y gylfinir yng Nghymru pan fod nifer o heriau, ac, mewn rhai achosion, maen nhw’n gymhleth iawn. Er mwyn llwyddo, bydd angen cynllun gweithredu clir, cydweithio, a buddsoddiad sylweddol. Ond mae'n ymddangos bod nifer fawr o sefydliadau ac unigolion ymroddedig sydd gyda'i gilydd yn barod i wneud cymaint â phosibl cyn gynted â phosibl i helpu.
Mae gennym ddeng mlynedd i ddod â’r gylfinir yn ôl o ymyl difodiant. Rwy’n mawr obeithio y bydd y cynllun gweithredu hwn yn adeiladu ar y gwaith da hyd yma ac yn annog pobl ledled Cymru i gymryd rhan a chydweithio i alluogi’r aderyn pwysig hwn i ffynnu yn ein tirwedd unwaith yn rhagor. Yn gynharach eleni, hedfanodd gylfinir dros fy nghar. Roeddwn i mor gyffrous nes i mi bron â gyrru i’r ffos. Yn y dyfodol, byddai'n braf meddwl y byddai digwyddiad o'r fath, unwaith eto, yn rhywbeth cyffredin.
Comments