Arolwg Adar Hirgoes sy’n Magu yng Nghymru 2026
- 3 days ago
- 3 min read
Mae nifer y Gylfinirod, ynghyd â holl adar hirgoes eraill y glaswelltir sy’n magu yng Nghymru (y Gornchwiglen, y Pibydd Coesgoch a’r Cwtiad Aur) yn dirywio’n sylweddol, o ran eu lleoliad ac o ran eu niferoedd, o ganlyniad i gyfuniad o dair elfen sy’n peri pwysau sylweddol: colli cynefinoedd, rheoli cynefinoedd mewn modd anffafriol ac ysglyfaethu ar nythod/cywion.
Heb ddata arolwg cyfredol, mae amcangyfrifon o boblogaeth bresennol Gylfinirod sy’n magu yn amrywio o 400 (allosodiad o arolwg ailadroddus â sampl bach) i ddim mwy na 1,700 o barau sy’n magu (allosodiad o ail arolwg mapio atlas adar Cymru gyfan). Mae data Arolwg Adar Magu BBS) yn dangos fod poblogaeth y Gylfinir yng Nghymru wedi lleihau o 76% rhwng 1995-2923 ac o leiaf 43% yn ystod y ddegawd diwethaf (2013-2023) sydd awgrymu fod lleihad y boblogaeth yng Nghymru yn digwydd ar raddfa cynt i’w gymharu â Lloegr yr Alban neu’r DG.
Mae cam gweithredu gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o fynd i’r afael ag argyfwng hinsawdd Cymru wedi’i osod fel cynnydd yn yr ardal o goed yng Nghymru o 15% i 17% erbyn 2040. Cydnabyddir ei bod yn hanfodol nad yw unrhyw ardaloedd newydd o goetir yn effeithio ar gynefin magu’r Gylfinir neu adar hirgoes eraill sy’n nythu ar y ddaear. Felly mae’n hanfodol ein bod yn gwybod ble mae poblogaethau adar hirgoes sy’n magu i’w cael o hyd yng Nghymru.
Pam mae arolwg yn digwydd nawr?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cyflawni Arolwg Adar Hirgoes sy’n Magu Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd yr wybodaeth a gesglir o arolwg 2026 yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â data o’r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol, sydd eisoes yn cael eu defnyddio gan CNC a Llywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau ar ddefnydd tir.
Ble mae’r arolwg yn digwydd?
Ddiwedd haf 2025, cynhaliodd Ymddiriedolaeth Adareg Prydain ymarfer modelu i restru pob sgwâr cilometr yng Nghymru ar gyfer y tebygolrwydd y byddai Gylfinir yn bresennol. Mae’r rhestr yn seiliedig ar ddata’r gorffennol, presenoldeb cynefin addas a newidynnau eraill.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r ddau undeb amaethyddol a Llywodraeth Cymru i geisio caniatâd mynediad i gynnal arolwg yn y sgwariau Kilometr a ddangosir ar y map isod.

Pryd mae’r arolwg yn digwydd?
Bydd yr arolygwyr yn cofnodi presenoldeb/absenoldeb y Gylfinirod ac adar hirgoes eraill, gan dreulio hyd at awr yn y cilometrau sgwâr a ddewiswyd.
Nod amseriad yr arolwg yw canfod Gylfinirod ar eu tiroedd magu cyn i’r cyfnod deor ddechrau.
Ymweliad 1 16 Mawrth i 5 Ebrill 2026
Ymweliad 2 6 Ebrill i 18 Ebrill 2026 (Os na chanfuwyd y Gylfinir yn ystod
Ymweliad 1)
Pwy sy’n cymryd rhan yn yr arolwg?
Mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) wedi sicrhau’r contract i gyflawni’r arolwg proffesiynol, a bydd y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar Cymru (RSPB) yn gweithio gyda nhw fel isgontractwyr i helpu i gyflawni’r darn allweddol hwn o waith
Y nod yw cynnal arolwg proffesiynol yn y 700 km sgwâr uchaf eu safle ledled Cymru ar gyfer y Gylfinir. Bydd adar hirgoes eraill sy’n magu yn yr ardaloedd hynny hefyd yn cael eu cofnodi; y Gornchwiglen, y Gïach, y Cwtiad Aur, pibydd y mawn a’r Pibydd Coesgoch.
Bydd staff CNC a Llywodraeth Cymru, ynghyd â staff o’r sefydliadau arweiniol ar gyfer yr ardaloedd pwysig i’r Gylfinir, yn cynnal yr arolwg ategol, gan ddefnyddio’r un dull arolwg â’r gweithwyr proffesiynol o fewn 300-400 km sgwar. Oherwydd yr angen i Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried llês unigolion, nid yw wedi bod yn bosibl i Cyfoeth Naturiol Cymru ofyn i unigolion yng Nghymru sy’n wybodus am y Gylfinirod i gymryd rhan yn Arolwg Adar Hirgoes sy’n Magu ffurfiol Cymru.
Beth alla i ei wneud i helpu?
Bydd yr holl ddata ar gyfer y Gylfinirod sy’n magu, ac adar hirgoes eraill, a gofnodwyd i’r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol yn ystod tymor magu cyfan 2026 yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â chanlyniadau Arolwg Adar Hirgoes sy’n Magu Cymru i lywio rheoli tir yn y dyfodol.
Os ydych chi wedi bod yn cyflwyno cofnodion magu Gylfinirod unrhywle yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, parhewch i wneud hynny yn ystod tymor 2026. Dim ond ardal gyfyngedig yng Nghymru y gall Arolwg Adar Hirgoes sy’n Magu Cymru ei chwmpasu, felly mae’r holl ddata ychwanegol yn hanfodol.
Gellir nodi cofnodion magu adar hirgoes drwy Birdtrack ( BirdTrack | BTO) , E bird (eBird - Discover a new world of birding...) neu’n uniongyrchol i’ch canolfan gofnodion leol Local Environmental Records Centres Wales. Mae’r cofnodion sy’n nodi’r côd magu perthnasol a chyfeiriadau grid cywir yn arbennig o werthfawr. Mae’r holl gofnodion yn cael eu dwyn at ei gilydd fel un set ddata yn system gofnodion Aderyn Aderyn :: Home ac fe’u defnyddir i adeiladu ein gwybodaeth am ble mae’r adar eiconig hyn yn parhau fel rhan bwysig o dirwedd tir ffermio Cymru.
.jpg)



Comments