top of page
curlew chicks in hand(crop).jpg

Glyfinir Cymru / Curlew Wales lansio digwyddiad

Cynhaliwyd digwyddiad lansio Gylfinir Cymru ar 23 Tachwedd 2021, gyda bron i 200 o selogion y gylfinir yn bresennol. Gellir gweld fideo o'r digwyddiad lansio yma:


Mae datganiad i'r wasg y digwyddiad lansio wedi'i gopïo isod:


Lansio Cynllun Gweithredu i achub gylfinirod yng Nghymru

Mae cynllun adfer gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid i wrthdroi dirywiad y gylfinir o dirweddau Cymru’n cael ei lansio heddiw (dydd Llun 22 Tachwedd).


Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir ei ysgrifennu a’i arwain gan Gylfinir Cymru, partneriaeth eang sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r dirywiad parhaus ym mhoblogaeth a dosbarthiad daearyddol yr aderyn eiconig hwn.


Dywedodd Patrick Lindley, Cadeirydd Gylfinir Cymru:

“Mae niferoedd gylfinirod sy’n nythu yng Nghymru’n dirywio’n sylweddol, ac os na fyddwn ni’n gweithredu nawr, gallai’r rhywogaeth hwn fod ar fin diflannu erbyn 2033.


“Fel y rhan fwyaf o weddill y DU ac Ewrop, rydym ni’n wynebu argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur, ac mae colli gylfinirod sy’n nythu’n cael ei ystyried gan lawer yn un o’r blaenoriaethau cadwraeth adar pwysicaf yng Nghymru.


“Mae colli bioamrywiaeth yn bellgyrhaeddol, yn gymhleth ac yn heriol, ond mae nifer yn ystyried y byddai colli gylfinirod sy’n nythu o dirweddau Cymru’n un cam rhy bell o safbwynt bioamrywiaeth.


“Nod Gylfinir Cymru yw atal, ac o bosibl, gwrthdroi’r dirywiad hwn trwy roi’r cynllun gweithredu deng mlynedd hwn ar waith. Gan gydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, undebau ffermio, y byd academaidd ac unigolion, mae’r cynllun gweithredu deng mlynedd hwn yn wynebu’r her drwy osod cyfeiriad strategol ar gyfer y camau gweithredu sy’n cyd-fynd yn agos, er mwyn sicrhau enillion cyraeddadwy i’r gylfinirod nythu sy’n weddill yng Nghymru.”


Mae’r Cynllun Gweithredu’n amlinellu rhaglen 10 mlynedd i ddiogelu gylfinirod sy’n nythu ac i sefydlogi’r dirywiad yn niferoedd gylfinirod sy’n nythu yng Nghymru.


Er mwyn gwneud hyn, bydd y cynllun yn mynd i’r afael â phedair prif thema:


  • Adnabod rhwydwaith o Ardaloedd Gylfinirod Pwysig (ICA) yng Nghymru i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ac i ddarparu ffocws ar gyfer gwaith cadwraeth wedi’i dargedu.

  • Gwrthdroi’r hyn sy’n arwain cynhyrchiant isel ar hyn o bryd (ysglyfaethwyr ac arferion rheoli glaswelltir yn ystod y tymor bridio).

  • Sicrhau bod pecyn o gefnogaeth ar gael i alluogi ffermwyr a rheolwyr tir i gydweithio ar raddfa’r dirwedd i sicrhau’r canlyniadau gofynnol ar gyfer gylfinirod sy’n nythu gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael.

  • Cefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysg i ddylanwadu ar ddewisiadau defnyddwyr a’r galw am gynnyrch amaethyddol sy’n cefnogi cynefinoedd sy’n gyfeillgar i’r gylfinirod sy’n nythu.


Dywedodd Mark Isherwood AS, Hyrwyddwr Rhywogaeth y Gylfinir yng Nghymru:

"Ers i mi ddod yn Hyrwyddwr Rhywogaeth y Gylfinir yng Nghymru yn 2016, rydw i wedi dysgu cymaint am sefyllfa enbyd y Gylfinir, fel rhywogaeth unigol ac fel ymbarél ecolegol neu rywogaeth ddangosol.


“Rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda Gylfinir Cymru, ers ei sefydlu fel cynghrair o sefydliadau arbenigol sy’n cydweithio gan eu bod oll yn angerddol ac yn benderfynol o sicrhau dyfodol y Gylfinir fel aderyn sy’n nythu yng Nghymru. Mae angen i ni ddeall y buddion niferus a’r buddion aml-rywogaeth sy’n deillio o achub y Gylfinir o safbwynt gwytnwch ecosystem, diwylliant a threftadaeth naturiol.”


Dyweodd Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Mae sefyllfa’r gylfinir yn cyfleu’r argyfwng hinsawdd i’r dim. Nid yw’n fater i lywodraethau ac arbenigwyr natur fynd i’r afael ag ef ar eu pen eu hunain – mae’n fater y dylai pob un ohonom yng Nghymru ei berchnogi, ei gefnogi a bod yn rhan o’r ateb. Diolch i Gylfinir Cymru am arwain y ffordd i adfer y rhywogaeth eiconig hon, maen nhw’n gwneud hynny er ein budd ni i gyd.


“Rydw i eisiau i genedlaethau’r dyfodol allu clywed cân hyfryd y gylfinir. Dyna pam yr ydw i eisoes yn buddsoddi dros £200 mil i gefnogi prosiectau sy’n helpu’r gylfinir yng Nghymru, a miliynau o bunnoedd pellach ar brosiectau sy’n rhoi cyfle i natur a bioamrywiaeth adfer a ffynnu, gan gynnwys cyllid i berchnogion tir a ffermwyr i wneud y penderfyniadau cywir o ran defnydd tir ar gyfer ein bywyd gwyllt.”


Mae Gylfinir Cymru yn bartneriaeth rhwng: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Cymru (BASC), Ymddiriedolaeth Adaryddol Prydain, Y Gynghrair Cefn Gwlad, Cofnod, Curlew Country, Cyngor Sir Ddinbych, Undeb Amaethwyr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, The Game and Wildlife Conservation Trust, NFU Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Ciperiaid, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Adaryddol Cymru a Llywodraeth Cymru.

6 views0 comments

コメント


bottom of page