AS / MS Pencampwr Rhywogaethau ar gyfer y Gylfinir.
Ar ôl derbyn y gwahoddiad i ddod yn Bencampwr Rhywogaethau Cymru ar gyfer y gylfinir yn ôl yn 2016, rwy’n falch iawn o fod yn ysgrifennu’r rhagair ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir, a baratowyd yn ofalus gan Gylfinir Cymru / Curlew Wales.
Rwy'n byw yng Ngogledd Cymru ac yn ei chynrychioli. Y rhostiroedd yn y rhan hyfryd hon o'r wlad sydd â’r boblogaeth fwyaf o gylfinirod bridio yng Nghymru. Yn anffodus, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r rhywogaeth wedi gweld dirywiad sylweddol ac mae'n diflannu o bob ardal yr ucheldir. O'i roi yn ei gyd-destun, ers 1993, mae'r boblogaeth yng Nghymru wedi gostwng dros 90% ac mae'n gostwng ~6% bob blwyddyn, ac mae bygythiad o golli’r rhywogaeth ar lefel gwlad erbyn 2033. Mae cyflwr y rhywogaeth hon yn ychwanegiad trist iawn i'r argyfwng natur rydym ni nawr yn ei wynebu yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU.
Rhestrir y gylfinir fel bod ‘dan beth bygythiad’ yn fyd-eang ar Restr Goch Rhywogaethau dan Fygythiad yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, ac mae'n aderyn ar y Rhestr Goch o Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru. Mae'r adroddiad ‘Cyflwr Adar yng Nghymru 2018’ yn atgyfnerthu'r dirywiad cronig ac yn nodi nad oes unrhyw awgrym o'r duedd hon yn gwastadu.
Oherwydd difrifoldeb argyfwng y gylfinir, ysgogodd hyn ‘alwad am gymorth’. Ym mis Ionawr 2018, cynhaliwyd cynhadledd y gylfinir yng Nghymru yn Llanfair-ym-Muallt. Daeth 120 o gyfranogwyr o bob rhan o’r sectorau cadwraeth, ffermio, anifeiliaid hela a pholisi gwledig yng Nghymru. Arweiniodd hyn at weithdai rhanbarthol a sefydlu Gylfinir Cymru / Curlew Cymru. Ym mis Mehefin 2019, mynychais yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar gylfinirod yn y DU yn 10 Stryd Downing, ochr yn ochr â Lewis Macdonald ASA, Pencampwr Rhywogaethau ar gyfer y gylfinir yn Senedd yr Alban; Jake Berry AS, Pencampwr Rhywogaethau ar gyfer y gylfinir yn San Steffan; a chynrychiolwyr o Gylfinir Cymru – Patrick Lindley, Uwch-adaregydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ac Amanda Perkins, prosiect Gwlad y Gylfinir. Yn yr uwchgynhadledd, clywsom y bydd angen digon o adnoddau i gynghori, i annog ac i gynorthwyo grwpiau o ffermwyr i ddod ynghyd i ddarparu, i fonitro ac i hyrwyddo gylfinirod a bioamrywiaeth ar draws tirweddau, a bod angen deall y nifer o fanteision i sawl rhywogaeth o arbed gylfinirod o safbwynt gwydnwch ecosystemau, diwylliant a threftadaeth naturiol.
Clywsom hefyd ein bod yng Nghymru ar adeg dyngedfennol o ran gylfinirod sy’n bridio, ac mae’n bosibl mai 15 mlynedd yn unig sydd gennym ar ôl. Dylai pob un ohonom fod yn rhan o’r gwaith o gyd-ddylunio cynllun, gyda phrofion a threialon, ac o’i gwneud yn ofynnol cael mecanwaith yn seiliedig ar anghenion ar gyfer taliadau i ffermydd, sef dull CAMPUS; a bod angen i ni gydlynu camau gweithredu, gan weithio ar raddfa a chyda'n gilydd, gan gynnwys asiantaethau statudol ac ar draws y DU. Pwysleisiais bwysigrwydd hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn llawn ar unwaith pan roddir y cyfrifoldeb i DEFRA neu unrhyw asiantaeth yn y DU o ddatblygu dull ledled y DU o ddiogelu’r gylfinir.
Mae cân unigryw a nefolaidd y gylfinir yn sain gyfarwydd sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn ein diwylliant. Mae'n hanfodol ein bod, trwy'r cynllun gweithredu hwn, yn gweithredu gyda'n gilydd nawr i atal yr adar hardd hyn rhag mynd i ddifodiant dros y degawd nesaf.
Comments