Mae niferoedd y gylfinir sy'n magu yng Nghymru wedi lleihau yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ystyrir bod y gylfinir ar hyn o bryd ymhlith y blaenoriaethau cadwraeth uchaf yn ym Mhrydain. Mae cynhyrchiant cywion isel yn arwain at leihad sylweddol o’r rhywogaeth eiconig hon yn ein hardaloedd ucheldir yma yng Nghymru.
Dros y misoedd sydd i ddod byddwn yn ceisio casglu cymaint o wybodaeth â phosibl am leoliad y gylfinir sy’n weddill ledled Cymru yn ystod y tymor nythu.
Mae gylfinirod yn dychwelyd i'w hardaloedd magu yn yr ucheldir o ddechrau mis Mawrth, gan sefydlu tiriogaethau magu yn ystod mis Ebrill cyn iddynt setlo i ddeor yr wyau. O ganol mis Mai rydym yn debygol o'u gweld yn gwarchod cywion ac yn galw i amddiffyn eu cywion. Mae clywed adar yn dal i alw yn eu hardaloedd magu tua diwedd mis Mehefin neu hyd yn oed hyd at fis Gorffennaf yn awgrymu bod ganddynt gywion yn agos iawn at adael y nyth.
Sut y gallwch chi helpu?
Gofynnwn i’r rhai ohonoch sydd wedi cofnodi’r gylfinir yn yr ucheldir yn y gorffennol rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf i ailymweld â’r un ardal, neu ardaloedd eraill lle mae gylfinirod i’w gweld eleni a chofnodi eu gweithgarwch ar Cofnod ble mae tudalen arbennig ar gael ar gyfer y gylfinir, neu gyda eich Canolfan Recordio Lleol.
Byddai cyfres o ymweliadau â'r un ardal gan gofnodi ymddygiad yr oedolion dros y cyfnod hwnnw yn rhoi gwybodaeth werthfawr iawn am lwyddiant magu tebygol yr aderyn eiconig hwn.
Mae canlyniadau negyddol hefyd o werth mawr i'n gwaith ar y gylfinir. Mae gwybod nad oedd gylfinirod yn bresennol yn ystod ymweliad ag ardal yn ystod y tymor magu yn gofnod pwysig iawn i ni.
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn nodi presenoldeb unrhyw fodrwyau neu dagiau ar y coesau. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth i’r nifer o brosiectau eraill yng Nghymru a gweddill y DU sy’n gweithio er bydd y gylfinir. (Gweler y ddolen ar gyfer cofnodi'r rhain ar dudalen Prosiect Gylfinir Cymru/ Curlew Wales ar Cofnod.
Byddai unrhyw gymorth y gallwch ei gynnig yn cael ei werthfawrogi'n fawr wrth i ni geisio sicrhau y bydd y gylfinir yn cael ei drysori yma yng Nghymru am genedlaethau i ddod.
Os hoffech wybod mwy am sut y gallwch chi helpu’r gylfinir yng Nghymru, cysylltwch â Bethan.Beech@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Comments